Ardal archwilio naturiol newydd i helpu plant i agosáu at fyd natur

Ardal archwilio naturiol newydd yn Whitestone.

Mae ardal hamdden yn Nyffryn Gwy wedi cael bywyd newydd diolch i ymdrechion gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Bu’n rhaid tynnu’r offer chwarae pren ar safle ymwelwyr Whitestone ger Tyndyrn ym mis Tachwedd 2021 am ei fod wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Ers hynny, mae gwaith wedi bod ar y gweill i ailddylunio gofod archwilio newydd gyda mwy o nodweddion naturiol, gan greu gofod i blant ac oedolion fel ei gilydd ymgolli mewn chwarae ac ymgysylltu â natur.

Mae’r ardal newydd yn cynnwys twmpath troellog gyda chaer ar ei ben, y gellir ei ddringo ar hyd llwybr troellog, sy’n golygu ei fod yn hygyrch i bawb.

Mae cerrig camu a boncyffion yn arwain at wahanol leoliadau o fewn yr ardal archwilio – o dwneli i gylchoedd coed cudd a boncyffion cydbwyso sy’n cwmpasu’r ardal gyfan.

Mae meinciau picnic newydd wedi’u gosod hefyd.

Fel rhan o’r ailddatblygiad, bu’n rhaid cwympo nifer fach o goed yn yr ardal a oedd wedi’u heintio â Phytopthora ramorum (sy’n fwy adnabyddus fel clefyd y llarwydd).

Cafodd y pren o’r coed heintiedig ei falu ar y safle a’i ddefnyddio i greu’r pontydd coed a’r waliau cynnal ar gyfer y twnnel ynghyd â grisiau a boncyffion camu.

Mae’r bonion coed sy’n weddill hefyd wedi’u hymgorffori yn y dyluniad naturiol a’u defnyddio i greu gêm ‘tic tac to’ fel y gall plant ac oedolion fel ei gilydd eistedd a chwarae gan ddefnyddio ffyn a cherrig.

Disgwylir i’r ardal archwilio agor i’r cyhoedd yr haf   hwn.

Dywedodd Andrew Hobbs, Swyddog Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein mannau gwyrdd yn amhrisiadwy ac yn lleoedd hamdden diogel i gymunedau, sy’n helpu i wella lles corfforol a meddyliol pobl.
Mae archwilio natur yn ffordd wych i blant ac oedolion ymarfer eu cyrff a’u meddyliau ac mae’r amgylchedd naturiol yn cynnig llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a syml.
Gwyddom fod yr ardal hon yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr ac mae wedi rhoi boddhad go iawn i’w gweld yn cael bywyd newydd ac yn cael ei hadfer i fod yn lle i bawb ei fwynhau.

I gynllunio eich ymweliad â Whitestone, ewch i: Cyfoeth Naturiol Cymru / Whitestone, ger Cas-gwent