Adroddiad tystiolaeth newydd yn cefnogi ymdrechion i wella ansawdd dŵr afonydd

Heddiw cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) adroddiad o dystiolaeth newydd ar ansawdd dŵr afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn ategu adroddiad cydymffurfio ffosfforws 2021 CNC ac yn edrych ar gydymffurfio yn erbyn saith targed ansawdd dŵr ychwanegol gan gynnwys amonia.

Mae’n canolbwyntio ar 127 corff dŵr o fewn y naw dalgylch afon ACA – Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, Wysg a Gwy – gan ddefnyddio data a gasglwyd rhwng 1 Ionawr 2017 a 31 Rhagfyr 2019.

Mae’r adroddiad yn dangos nad oes unrhyw fethiannau ar  Afon Tywi ac Afon Glaslyn, tra bod nifer fechan o achosion o ddiffyg cydymffurfio ar Afon Dyfrdwy, Afon Eden ac Afon Gwyrfai.

Cofnodir achosion mwy sylweddol o fethu cyrraedd targedau ar Afonydd Cleddau, Afon Teifi, Afon Wysg ac Afon Gwy. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn cyfeirio at dargedau sy’n ddangosyddion llygredd organig.

Cleddau oedd yr unig ACA lle cafwyd methiannau o ran amonia.

Meddai Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaeth Cynghori ar Gynllunio Datblygu CNC:
“Roedd ein hadroddiad cydymffurfio ffosfforws blaenorol yn cael ei ystyried yn dystiolaeth newydd hanfodol, ac yn allweddol ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled Cymru.
“Ers hynny, cafwyd llawer o gydweithio rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol, rheoleiddwyr a diwydiant a chynnydd sylweddol o ran lleihau ffynonellau ffosfforws sy’n mynd i’n hafonydd.
Ymysg llawer o bethau, mae hyn yn cynnwys sefydlu Byrddau Rheoli Maethynnau, cyflwyno Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, a gweithio i leihau’r effaith o ddatblygiadau ar safon dŵr afon.
“Rydym yn disgwyl y bydd yr ymdrechion hyn, yn eu tro, hefyd yn helpu i leihau rhai o’r llygryddion eraill a’r dangosyddion llygredd sy’n cael eu hamlygu yn yr adroddiad heddiw.”

Mewn mannau lle bydd pryder wedi ei nodi, bydd gwaith ymchwilio a monitro ychwanegol yn cael ei ystyried.

Mae’r methiannau amonia cyson yn ACA Cleddau yn debygol o fod o ganlyniad i amrediad o ffynonellau llygredd. Mae CNC yn cynnwys trwyddedau dŵr gwastraff o fewn y rhannau sy’n methu yn y dalgylch yn ein rhaglen adolygu gyfredol.

Meddai Rhian:

“Mae tystiolaeth newydd bob amser yn cael ei chroesawu a bydd yn parhau i gyfarwyddo ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r llu o heriau sy’n wynebu ein hafonydd.

“Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, mae CNC wedi ymrwymo i chwarae rhan lawn i leihau llygredd a gwella ansawdd dŵr, a byddwn yn parhau i gydweithio ag eraill i weithredu’r newidiadau y mae pob un ohonom eisiau eu gweld yn ein hafonydd.”

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, mae CNC yn gweithio i ddiweddaru ei ganllawiau ar gyfer awdurdodau cynllunio a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi’n fuan.