Ymgynghoriad newydd ar gynlluniau i amddiffyn dyfrffyrdd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi agor ei ail ymgynghoriad cyhoeddus wrth iddo gymryd y camau nesaf tuag at gynlluniau'r dyfodol i reoli iechyd afonydd, nentydd, llynnoedd, dyfroedd daear a dyfroedd arfordirol Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg rhwng 21 Hydref 2025 a 21 Ebrill 2026, ac mae'n rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud ynglŷn â’r heriau presennol sy'n wynebu dyfroedd Cymru, a'r camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn eu goresgyn.
Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn cael eu diweddaru bob chwe blynedd, ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer sut y bydd CNC yn rheoli, amddiffyn a gwella afonydd, llynnoedd, camlesi, dyfroedd daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol Cymru.
Maent yn darparu tystiolaeth hanfodol ar gyflwr presennol dyfroedd Cymru ac yn nodi camau gweithredu lefel uchel i helpu cyrff dŵr i fodloni safonau statudol.
Meddai Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC:
“Mae ein dyfroedd dan bwysau ac yn wynebu bygythiad cynyddol oherwydd newid hinsawdd a gweithgaredd dynol.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld gweithredu ar raddfa fawr, gennym ni ein hunain a llawer o sefydliadau eraill, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n achosi llygredd, ansawdd dŵr gwael a dirywiad cynefinoedd.
“Ond mae hwn yn gyfle i unrhyw un sy’n poeni am iechyd ein dyfrffyrdd yn y dyfodol roi gwybod i ni pa heriau a phroblemau maen nhw’n eu gweld yn eu hardal leol, ac i fod yn rhan o’r ateb.
“Mae datblygu’r set nesaf o Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn rhoi cyfle i ni osod uchelgeisiau newydd ar gyfer rheoli ein dyfroedd yng Nghymru. Bydd y camau a gymerwn nawr yn llunio iechyd ein dyfroedd, a'n bywyd gwyllt, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd ar gyfer Gorllewin Cymru ac Ardaloedd Basn Afon Dyfrdwy.
Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr, mewn partneriaeth â CNC, sy'n arwain Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren, a bydd yn agor yn ddiweddarach eleni.
Gall pobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac ymateb i'r ymgynghoriad ar dudalen we ymgynghori CNC.
Gall unrhyw un na all gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein gwblhau copi papur drwy e-bostio wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 03000 65 3000.
Heddiw, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd adroddiad cynnydd interim ar y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd cyfredol (2021-2027). Mae hyn yn asesu'r cyflawniad yn erbyn y camau gweithredu a amlinellir yn y cynlluniau a'r cynnydd yn erbyn y canlyniadau strategol ar gyfer dyfroedd Cymru.
Mae'r adroddiad ar gael i'w weld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.