Mae angen cofrestru gweithgareddau gwastraff fferm
Dylai bob ffermwr sydd yn delio â gwastraff gofrestru neu adnewyddu eithriadau gwastraff gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn y misoedd nesafCofrestrodd nifer o ffermwyr am eithriadau yn 2016. Mae'r rhain ar fin dod i ben ac mae angen eu hadnewyddu.
Gall ffermwyr eraill fod wedi newid arferion gwaith ers hynny ac mae angen iddynt gofrestru am y tro cyntaf.
Mae cofrestru yn sicrhau yr ymdrinnir â gwastraff mewn ffordd nad yw'n achosi niwed i bobl neu'r amgylchedd.
Gall peidio â chofrestru neu gydymffurfio ag eithriad gwastraff arwain at gosbi ffermwyr.
Mae CNC am weithio gyda ffermwyr ac yn gwneud mor hawdd â phosib i adnewyddu eu eithriadau neu i gofrestru am y tro cyntaf. Ond mae CNC hefyd yn atgoffa ffermwyr allent troseddi os ydynt yn cyflawni gweithred wastraff heb gael eithriad neu drwydded gwastraff.
Mae yna nawr system ar-lein syml ar gael i'w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gofrestru. Bydd eithriadau presennol y rhan fwyaf o ffermwyr yn dod i ben ym mis Medi neu Hydref.
Mae eithriad gwastraff yn hysbysu CNC y gall ffermwr fod yn trin gwastraff, er enghraifft llosgi gwastraff gwyrdd neu ddefnyddio gwastraff adeiladu ar ffyrdd fferm.
Mae angen cofrestru gweithgareddau amaethyddol cyffredin megis adeiladu traciau gyda rwbel/cerrig/naddion pren, defnyddio teiars ar ben dalenni silwair, defnyddio sarn papur, a llosgi torion o berth.
Mae CNC yn hyrwyddo arfer gorau ym maes ffermio, a gallwn roi cyngor ar ffyrdd ymarferol, cynaliadwy o weithio fel bod pob un ohonom yn chwarae ein rhan wrth ddiogelu'r byd rydym yn byw ynddo.
Dywedodd llefarydd CNC Helen Florek-Oughton:
"Naeth ffermwyr cofrestru eu heithriadau gwastraff tri diwethaf yn 2016 ac oherwydd bydd y rhain yn dod i ben cyn bo hir, rydyn ni'n atgoffa iddynt ei adnewyddu.
"Mae cofrestru'n rhad ac am ddim ac mae'n golygu na fydd angen trwydded ar ffermwyr i ddelio â rhywfaint o wastraff ar eu fferm – mae ' n hawdd ac yn rhydd i gofrestru ar-lein.
Cofrestru neu adnewyddu eich esemptiadau gwastraff
Dylai gymryd llai na thua 15 munud i gwblhau’r ffurflen