Cyllid Rhwydweithiau Natur yn helpu i warchod bywyd gwyllt a phlanhigion yn Eryri

Mae bywyd gwyllt a phlanhigion prin mewn llecyn tlws yn Eryri sydd â chyfoeth o fioamrywiaeth wedi cael hwb.

Mae gwaith ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Ffos Anoddun ger Rhaeadr y Graig Lwyd ar afon Conwy yn helpu i warchod bywyd gwyllt a phlanhigion trwy reoli rhywogaethau o blanhigion estron goresgynnol.

Mae rhododendron, llawrgeirios, asalea melyn, a sbriwsen-hemlog y Gorllewin yn bygwth rhywogaethau brodorol sy’n cynnig cysgod a bwyd i adar sy’n nythu, fel telor y coed a bronwen y dŵr yn ogystal â sawl rhywogaeth o ystlum gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf a’r ystlum hirglust.

Mae contractwyr lleol yn defnyddio rhaffau i gael mynediad i reoli’r llystyfiant yn y ceunant serth ac o’i amgylch er mwyn atal y planhigion rhag lledaenu ymhellach.

Comisiynwyd y gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac fe’i hariennir gan Gronfa Rhwydwaith Natur Llywodraeth Cymru i gryfhau gwytnwch safleoedd tir a môr gwarchodedig Cymru.

Dywedodd Rob Booth, Swyddog Adfer Bioamrywiaeth i CNC:

“Mae Ffos Anoddun a Rhaeadr y Graig Lwyd wedi bod yn atyniad cyson i ymwelwyr ag Eryri ers dros 200 mlynedd. Mae maint, nerth a harddwch naturiol y rhaeadr a’r ceunant hwn yn denu pobl ac yn gwneud argraff fawr arnynt.

“Bydd rheoli a chael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol yn lleihau cysgodi a chystadleuaeth i rywogaethau brodorol. Bydd hyn yn helpu’r ceunant i gynnig amodau delfrydol i amrywiaeth o fwsoglau, cennau, a rhedyn, gan gynnwys tafod yr hydd a gwrychredynen feddal a sawl rhywogaeth brin arall sy’n tyfu ar glogfeini yn yr afon, ar goed a brigiadau creigiog yn y coetir.

“Yn ogystal ag adar, ystlumod, mwsoglau prin a phlanhigion, mae SoDdGA Ffos Anoddun yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt fel dyfrgwn, moch daear, nythfeydd o forgrug y coed, eogiaid ynghyd â’r rhywogaethau prin chwilen dail y wernen a’r fritheg berlog.

"Drwy gael gwared ar rywogaethau o blanhigion estron goresgynnol yn raddol ac mewn ffordd sensitif, rydym yn sicrhau nad yw mwsoglau prin, na mathau eraill o fywyd gwyllt a phlanhigion, sydd i’w cael yn y ceunant yn cael eu heffeithio’n andwyol.”