Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio am fygythiad eogiaid cefngrwm goresgynnol i bysgodfeydd y DU

Eog cefngrwm

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio am fygythiad eogiaid cefngrwm goresgynnol ac wedi annog pysgotwyr i adrodd am achosion o weld neu ddal eogiaid cefngrwm goresgynnol, y disgwylir iddynt ymddangos yn nyfroedd y DU eleni.

Yn 2019 a 2021, gwelwyd nifer o eogiaid cefngrwm goresgynnol yn nyfroedd y DU, ac o ystyried bod gan eogiaid cefngrwm gylch bywyd sefydlog, dwy flynedd a’u bod yn silio yn gyffredinol yn yr haf, mae'n debygol iawn y byddant yn ymddangos eto mewn afonydd eleni.

Mae dyfodiad eogiaid cefngrwm yn codi pryderon posibl i rywogaethau brodorol eraill, gan gynnwys eogiaid yr Iwerydd. Mae eogiaid yr Iwerydd dan fygythiad gyda niferoedd y rhywogaeth yn gostwng yn sylweddol oherwydd pwysau amrywiol. Mae'r eog cefngrwm goresgynnol yn cael ei ystyried yn fygythiad ychwanegol i'w goroesiad.

Mae eogiaid cefngrwm (Onchorhyncus gorbuscha) yn tarddu o ogledd y Cefnfor Tawel a gellir eu hadnabod gan smotiau hirgrwn du mawr ar eu cynffon, yn ogystal â’u cegau a thafodau tywyll iawn ac mae ganddynt gennau llawer llai nag eogiaid yr Iwerydd.

Meddai Dave Mee, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol Pysgodfeydd Dŵr Croyw i CNC: 

“Er mai dim ond un eog cefngrwm a gofnodwyd gennym yng Nghymru yn 2019, gallai eu lledaeniad parhaus ar draws gogledd Ewrop i'r DU fod yn risg ddifrifol i'n poblogaethau o eogiaid yr Iwerydd sydd eisoes dan fygythiad. 
“Mae timau CNC yn gweithio'n galed i gyfyngu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol fel bod pysgod brodorol, ecosystemau a bywyd gwyllt arall yn cael eu gwarchod rhag y difrod y maent yn ei achosi.
“Dyna pam ei bod yn hanfodol bod y cyhoedd yn deall y risg uniongyrchol hon ac yn rhoi gwybod i ni am unrhyw achos o ddal neu weld eogiaid cefngrwm, boed hynny drwy ein hofferyn adrodd newydd neu i linell gymorth digwyddiadau CNC.”

Gofynnir i reolwyr pysgodfeydd, pysgotwyr, pysgotwyr rhwydi ac aelodau o'r cyhoedd roi gwybod am unrhyw achosion o weld neu ddal y pysgod hyn i linell ddigwyddiadau CNC - 03000 65 3000 — Rhoi Gwybod am Ddigwyddiad neu ddefnyddio'r offeryn adrodd newydd sydd wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â Fisheries Management Scotland ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gellir defnyddio'r offeryn adrodd newydd hwn i roi gwybod am unrhyw eogiaid cefngrwm sy'n cael eu gweld neu eu dal, yn gyflym ac yn hawdd. Yna bydd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i'r awdurdod priodol ar gyfer unrhyw ymateb a allai fod yn ofynnol. Bydd y data a gesglir yn helpu Asiantaeth yr Amgylchedd ac ymchwilwyr pysgodfeydd i ddeall yn well sut i reoli dyfodiad eogiaid cefngrwm.

Gellir dod o hyd i daflen wybodaeth ganllaw, sy'n darparu'r holl gyngor sydd ei angen ar unigolion sy'n dod ar draws y rhywogaeth hon.