Cyfoeth Naturiol Cymru i Gynnal Cyfarfod Cyhoeddus Rhithwir ar Broblemau Arogleuon a Llygredd Tirlenwi Withyhedge

Logo CNC

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal cyfarfod cyhoeddus rhithwir i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned sydd wedi bod yn profi arogleuon sy’n dod o Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.

Cynhelir y cyfarfod ar-lein ddydd Mercher, 31 Ionawr, am 6pm.

Bydd tîm CNC ar gyfer Rheoleiddio’r Diwydiant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch rheoleiddio diweddar yn ogystal â chyd-destun ehangach ynghylch y drwydded sydd gan y gweithredwr a rôl CNC o ran sicrhau cydymffurfiaeth â’r drwydded honno. Bydd y digwyddiad yn cloi gyda sesiwn holi ac ateb.

Dylai aelodau o'r gymuned sy'n dymuno mynychu lenwi'r ffurflen hon ar-lein, sy'n cynnwys cyfle i ddarparu cwestiynau ymlaen llaw y byddwn yn ymdrechu i'w cynnwys yn ystod y digwyddiad.

Mae CNC wedi bod yn derbyn llawer iawn o adroddiadau am arogleuon a llygredd gan aelodau’r gymuned. Mae'r sefydliad yn credu mai prif ffynhonnell yr arogleuon yw cell sydd heb ei chapio sy'n cynnwys gwastraff sy'n cynhyrchu nwy tirlenwi. Prif amcan y tîm rheoleiddio yw sicrhau bod y gweithredwr yn cymryd camau i leihau allyriadau arogleuon.

Dywedodd Erin Smyth-Evans, Arweinydd Tîm Rheoleiddio’r Diwydiant ar gyfer y De-orllewin:

“Rydym wedi cael llu o adroddiadau gan y gymuned leol ynghylch arogleuon a phryderon eraill o ran llygredd yn Withyhedge ac yn deall fod hyn yn peri i bobl deimlo’n flin ac yn rhwystredig. Oherwydd nifer y galwadau a’r ffaith fod ein swyddogion yn canolbwyntio ar leihau'r arogl, nid ydym wedi gallu darparu adborth ar gyfer pob adroddiad unigol.

“Rydym yn cynnal y digwyddiad hwn i roi diweddariad llawn i bobl ar ein gweithgarwch rheoleiddio ac ateb cymaint o gwestiynau â phosib. Mae darparu’r lefel briodol o adborth i’r gymuned yn bwysig ac mae’r digwyddiad hwn yn nodi dechrau gwell ymgysylltiad â’r gymuned leol.”

I gadarnhau presenoldeb yn y cyfarfod ac i gyflwyno cwestiwn ar gyfer y sesiwn holi ac ateb, llenwch y ffurflen ganlynol: https://bit.ly/FfurflenArchebuWithyhedge 

Bydd manylion ar sut i ymuno â'r cyfarfod yn cael eu hanfon drwy e-bost ar ôl cwblhau'r ffurflen archebu.