Dyn o Sir Fynwy yn euog o droseddau gwastraff anghyfreithlon

Mae dyn yn Sir Fynwy wedi'i ddedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis gyda 200 awr o waith di-dâl a'i orchymyn i dalu costau llawn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o £13,915.09, ar ôl ei gael yn euog o dri chyhuddiad yn ymwneud â gwastraff yn Llys Ynadon Casnewydd yn gynharach heddiw (dydd Mawrth 27 Mehefin)

Mae dyn yn Sir Fynwy wedi'i ddedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis gyda 200 awr o waith di-dâl a'i orchymyn i dalu costau llawn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o £13,915.09, ar ôl ei gael yn euog o dri chyhuddiad yn ymwneud â gwastraff yn Llys Ynadon Casnewydd yn gynharach heddiw (dydd Mawrth 27 Mehefin).

Cafwyd Mr Philip Johns yn euog o weithredu cyfleuster gwastraff ar fferm Glannau, Sir Fynwy heb y drwydded amgylcheddol berthnasol, a chael gwared ar wastraff rheoledig, mewn modd a fyddai’n debygol o achosi llygredd i’r amgylchedd neu niwed i iechyd dynol.

Fe’i cafwyd yn euog hefyd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad Adran 59 a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, i symud gwastraff rheoledig o’r safle, ond ni chafodd gosb ar wahân am hyn.

Ymwelodd swyddogion CNC â’r fferm ym mis Ionawr 2022 ar ôl derbyn adroddiadau am weithgareddau gwastraff.

Cafwyd hyd i ddyddodion lluosog o wastraff, gan gynnwys nifer o gerbydau a oedd yn y broses o gael eu datgymalu, gyda rheiddiaduron ac olwynion wedi'u tynnu a photiau olew gwag yn dal cerbydau, ynghyd â gwastraff gwyrdd a charpedi.

Gwelwyd hefyd nifer o sgipiau yn mynd i mewn ac allan o'r safle, gyda llawer ohonynt wedi'u gorchuddio â tharpolin, gan ddangos bod gwastraff yn cael ei gludo i'r fferm ac oddi yno.

Yn ystod ymweliadau dilynol ac ymweliad cydymffurfio terfynol a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022, gwelodd swyddogion CNC droseddau pellach o’r un natur. Canfu swyddogion CNC hefyd fod mynediad wedi’i rwystro’n fwriadol gan gerbyd.

Honnodd Mr Johns fod ganddo'r drwydded amgylcheddol briodol i drin, storio a gadael gwastraff ar fferm Glannau ac na dderbyniodd yr hysbysiad Adran 59 i symud y gwastraff ac adfer y safle.

Dywedodd hefyd fod y sgipiau'n cynnwys bwyd anifeiliaid a bod y cerbydau oedd yn cael eu stripio ar gyfer ailgylchu.

Fodd bynnag, nododd y Barnwr Rhanbarth yn Llys yr Ynadon nad oedd Mr Johns wedi gallu rhoi esboniad credadwy ynghylch ansawdd a maint y gwastraff ar fferm Glannau, a pham fod enw a rhif Mr Johns ar y nifer cynyddol o sgipiau a welwyd yn mynd i mewn ac allan o’r safle rhwng mis Ionawr a mis Mawrth.

Yn y ddedfryd yn gynharach heddiw (27 Mehefin) dedfrydwyd Mr Johns i orchymyn cymunedol 12 mis gyda 200 awr o waith di-dâl a'i orchymyn i dalu costau llawn CNC o £13,915.09.

Dywedodd Su Fernandez, Uwch Swyddog Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae troseddau gwastraff nid yn unig yn effeithio ar yr amgylchedd ond hefyd ar iechyd pobl a’u cymunedau lleol, yn ogystal â thanseilio busnesau cyfreithlon sy’n gweithredu o fewn y diwydiant gwastraff.
Rwy’n gobeithio bod y canlyniad hwn yn anfon neges i bawb sy’n ymwneud â storio a gollwng gwastraff yn anghyfreithlon, ein bod yn cymryd y gweithgaredd hwn o ddifrif ac y byddwn bob amser yn cymryd y camau priodol i amddiffyn ein hamgylchedd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Roedd Mr Johns wedi cael ei erlyn yn flaenorol gan CNC am droseddau gwastraff ym mis Tachwedd 2021, gan dderbyn dirwyon o £13,542 a di-rymwyd ei drwydded cludo gwastraff.

Dylai unrhyw un sy’n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn eu hardal roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.