Trwydded forol wedi ei gyhoeddi gan CNC ar gyfer parth arddangos llanw Morlais
Ar ôl 2 flynedd o asesu cadarn a sawl proses ymgynghori, mae CNC heddiw wedi cyhoeddi trwydded forol i Menter Môn Limited ar gyfer Prosiect Arddangos Llanw o'r enw Morlais.
Mae’r brosiect ar gyfer gosod ac arddangos masnachol o ddyfeisiau ynni llanw a bydd yn darparu ardal ar gyfer datblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy ar y môr ar draws 35km2 i'r gorllewin o Ynys Môn.
Bydd yr ardal yn darparu seilwaith cymunedol i ddatblygwyr technoleg llanw gyda llwybr a rennir i gysylltiad grid lleol. Bydd y brosiect yn cael ei gwblhau fesul cam a bydd angen monitro ac asesu ymhellach cyn symud ymlaen.
Dywedodd Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau CNC:
“Mae CNC wedi ystyried yn ddwys ystod eang o safbwyntiau a godwyd trwy gydol y broses hon. Mae pob penderfyniad am drwydded forol yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a chyngor arbenigol gydag ymgynghoriad helaeth.
“Bydd y penderfyniad a wnaethom yn galluogi'r datblygiad hwn i ddigwydd mewn ffordd gynaliadwy sy'n darparu mesurau diogelwch i bobl, bywyd gwyllt gwarchodedig a defnyddwyr eraill y môr. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r datblygwr i sicrhau cydymffurfiad â'r mesurau diogelwch hynny.”
Cynhaliwyd sawl asesiad technegol i sicrhau bod risgiau llygredd yn cael eu hystyried, effeithiau ar ddefnyddwyr cyfreithlon eraill y môr, niwed posibl i'r amgylchedd neu iechyd pobl, ac i sicrhau ei fod yn cwrdd â rheoleiddio cadarn.