Dirwy i ddyn am bysgota’n anghyfreithlon yn Afon Teifi

Pysgota anghyfreithlon Castellnewydd Emlyn - arwydd tir preifat

Mae dyn wedi cael dirwy gan y llys ar ôl pysgota'n anghyfreithlon yn Afon Teifi ger Castellnewydd Emlyn.

Plediodd Peter Clarke, o Gastellnewydd Emlyn, yn euog ar ôl cael ei ddal yn pysgota heb y drwydded a'r caniatâd cywir. Gwrandawyd ar ei achos yn ei absenoldeb yn Llys Ynadon Llanelli ar 17 Ebrill 2026. 

Clywodd y llys fod Mr Clarke, ar 18 Medi 2025,  wedi cael ei weld yn pysgota â gwialen ar ddarn preifat o Afon Teifi ger Dol Wyber.

Nid oedd ganddo drwydded gwialen bysgota ddilys ac nid oedd yn aelod o'r clwb pysgota lleol sy'n berchen ar yr hawliau pysgota yn y lleoliad hwnnw.

Pwrpas cyfreithiau pysgota yw diogelu afonydd, bywyd gwyllt a stociau pysgod, a rhaid i unrhyw un sy’n bwriadu pysgota gael y drwydded a’r caniatâd cywir cyn dechrau gwneud hynny.

Roedd swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal patrolau arferol yn yr ardal pan welsant Mr Clarke yn cerdded tuag at yr afon. Pan ddaeth swyddogion ato, roedd yn tynnu abwyd pysgota allan o'r dŵr.

Cadarnhaodd Mr Clarke yn ddiweddarach nad oedd ganddo drwydded bysgota ac nad oedd ganddo ganiatâd i bysgota yno. Cafodd offer pysgota eu hatafaelu yn y fan a'r lle.

Canfu’r llys fod Mr Clarke yn euog o bysgota heb drwydded gwialen bysgota ddilys ac o geisio pysgota mewn dyfroedd lle nad oedd ganddo hawl gyfreithiol i wneud hynny.

Gorchmynnwyd Mr Clarke i dalu dirwy o £1,100, ynghyd â £1,375 tuag at gostau erlyn ac ymchwilio a gordal dioddefwr o £440. Mae hyn creu cyfanswm taladwy o £2,915. Gwnaed gorchymyn casglu, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol talu’r swm yn llawn o fewn 28 diwrnod.

Dywedodd Rhodri Thomas, swyddog gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Pwrpas cyfreithiau pysgota yw diogelu ein hafonydd, stociau pysgod a bywyd gwyllt. Gall anwybyddu'r rheolau hyn niweidio'r amgylchedd ac chreu annhegwch i bobl sy'n pysgota'n gyfreithlon. Rhaid i bawb sy'n pysgota sicrhau bod ganddyn nhw'r drwydded a'r caniatâd cywir cyn cychwyn.”

Mae CNC yn atgoffa pysgotwyr bod angen trwydded bysgota ddilys a’r caniatâd cywir gan y tirfeddiannwr neu'r clwb cyn pysgota, a bod gwiriadau gorfodi yn cael eu cynnal yn rheolaidd ledled Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan CNC.