Gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf: Annog tirfeddianwyr yng Nghymru i gael cyngor cyn gweithio mewn afonydd
Mae tirfeddianwyr yng Nghymru yn cael eu hannog i geisio cyngor arbenigol cyn gwneud unrhyw waith mewn afonydd neu nentydd er mwyn osgoi camgymeriadau costus, difrod damweiniol a niwed amgylcheddol a all fod yn anodd ei ddadwneud.
Gall gwaith mewn afonydd a nentydd wedi’i gynllunio’n wael– er enghraifft, cael gwared ar raean, ail-lunio glannau neu sythu sianeli – greu problemau newydd yn gyflym, gan gynnwys cynyddu erydiad a pherygl llifogydd yn ogystal â niwed i fywyd gwyllt. Gallant hefyd effeithio ar strwythurau a thir cyfagos, a allai arwain at atebolrwydd cyfreithiol ac atgyweiriadau drud.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud y gellid osgoi llawer o’r problemau hyn yn hawdd pe bai tirfeddianwyr yn gwirio gyda nhw cyn dechrau’r gwaith. Gall cael y cyngor cywir i gynllunio gwaith yn iawn helpu tirfeddianwyr i ddeall pa ganiatadau sydd eu hangen arnynt a sut i ymgymryd â’r gwaith yn effeithiol, yn gynaliadwy ac yn gyfreithiol.
Dywedodd Francesca Sanchez, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Dŵr Croyw yn CNC:
“Rydym yn gofyn i berchnogion tir gysylltu â ni cyn dechrau unrhyw waith mewn afon neu nant. Mae’n wirioneddol fanteisiol iddynt wneud hynny. Yn rhy aml, dim ond ar ôl i rywbeth fynd o’i le y byddwn yn clywed am y gweithgareddau hyn, ac erbyn hynny gallai tirfeddianwyr fod yn wynebu hysbysiadau stop, costau adfer a chamau gorfodi. Gallai galwad syml ar y cychwyn atal hynny.
“Rydym am helpu perchnogion tir i wneud pethau’n iawn – mewn ffordd sy’n diogelu eu tir, yn osgoi niwed i fywyd gwyllt ac nad yw’n creu problemau i’w cymdogion. Mae gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf bob amser yn haws ac yn rhatach na’u cywiro wedyn.”
Mae nodweddion naturiol fel banciau graean eisoes wedi dirywio gan fwy na hanner yng Nghymru dros y ganrif ddiwethaf. Mae’r rhain yn gynefinoedd pwysig i bysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt, a gall eu symud neu darfu arnynt arwain at effeithiau hirdymor, er enghraifft ansefydlogi’r amgylchedd lleol am flynyddoedd i ddod, yn ogystal ag arwain at gamau gorfodi yn erbyn perchennog y tir.
Mae angen caniatâd gan CNC neu’r awdurdod lleol ar gyfer y rhan fwyaf o waith mewn neu wrth ymyl afon neu nant, a gallai gwneud gwaith heb gydsyniad fod yn drosedd. Gall swyddogion arbenigol CNC esbonio pa ganiatadau sydd eu hangen a chynghori ar y ffordd orau o symud ymlaen.
Ychwanegodd Francesca: “Mae bob amser yn well gwirio pa ganiatadau sydd eu hangen arnoch cyn gwneud unrhyw waith mewn afon neu nant. Mae’n well i natur ac i berchennog y tir. Gallwn eich tywys drwy’r hyn sydd ei angen a’ch helpu i osgoi difrod damweiniol a chamau gorfodi.”
Gall tirfeddianwyr sy’n cynllunio gwaith mewn afon neu nant gysylltu â CNC i gael cyngor ar 0300 065 3000 neu anfon e-bost at ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Gellir rhoi gwybod am weithgareddau anghyfreithlon a amheuir mewn afonydd drwy’r un rhif.