Gwelliannau wedi’u gwneud i gatiau amddiffynfa rhag llifogydd Abergwili i liniaru llifogydd eilaidd

Gwaith amddiffyn rhag llifogydd Abergwili

Mae cam cyntaf y gwaith ar un o asedau amddiffyn rhag llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i gwblhau.

Mae dau bwmp swmp wedi’u gosod yn y siambr storm. Ym mis Ionawr 2024 bydd y gatiau llifogydd yn cael eu haddasu gyda mecanwaith colfach gât.

Ar ôl cwblhau’r ddau gam, disgwylir y bydd lefelau dŵr llifogydd yn yr ardal benodol honno o Abergwili yn gostwng, ac y bydd y pwysau ar adnoddau CNC yn gostwng yn ystod digwyddiadau tywydd difrifol.

Yn ystod tywydd arferol mae dŵr yn llifo i’r swmp (tu ôl i’r amddiffynfa) ac yn pasio trwy’r arglawdd llifogydd i’r ffos sy’n mynd allan. Mae’r siambr wedi’i diogelu gan falf glec sy’n atal dŵr rhag ailymuno â’r system.

Yn ystod digwyddiad llifogydd, mae staff gweithrediadau yn mynd i’r amddiffynfa rhag llifogydd i gau’r gatiau llifogydd. Mae dŵr llifogydd yn codi ar ochr yr afon ac nid oes gan brif ddŵr y storm unman i fynd. Mae’r falf glec yn cael ei dal ar gau gan y dŵr llifogydd gan achosi i’r lefel godi yn y siambr storm. Mae hyn yn achosi llifogydd eilaidd y tu ôl i’r arglawdd a’r gatiau.

Mae staff CNC yn pwmpio dŵr o’r tu ôl i’r amddiffynfa gan ddefnyddio pympiau diesel. Mae hyn yn llafurus iawn, yn golygu llawer o amser teithio, yn defnyddio tanwydd ac yn creu allyriadau carbon ychwanegol.

Bu CNC yn gweithio gyda’r Adran Fecanyddol, Trydanol, Offeryniaeth, Rheoli ac Awtomeiddio (MEICA), a thimau Perfformiad Asedau a Gweithrediadau’r De-orllewin, i ddod o hyd i ddatrysiad mwy cynaliadwy, a datblygwyd syniad i ddefnyddio pympiau tanddwr o fewn y swmp presennol i bwmpio’r dŵr allan.

Dywedodd Christopher Cook, Peiriannydd Arbenigol, CNC:

"Rydym wedi gweithio gyda gwahanol dimau a sefydliadau i ddod o hyd i ateb mwy cynaliadwy i’r materion sy’n wynebu gatiau llifogydd Abergwili.

"Mae’r cam cyntaf wedi’i gwblhau ar ôl gosod y pympiau eilaidd, a bydd y gwaith ar y gatiau yn cael ei wneud yn y Flwyddyn Newydd. Gobeithio y bydd hyn yn lleddfu’r pwysau ar staff CNC yn ystod digwyddiadau tywydd garw, ac yn hollbwysig, yn lleihau’r risg o lifogydd eilaidd yn yr ardal hon sydd wedi wynebu peryglon llifogydd ers blynyddoedd lawer.

"Mae hwn wedi bod yn brosiect cymhleth i ddatblygu a gwneud y gwaith gosod mewn amodau mor gyfyng."

Cyn y gellid gosod y pympiau, roedd angen gwneud rhywfaint o waith paratoi, gan gynnwys gosod plinth concrid ar gyfer y ciosg rheoli, dwythellau ar gyfer ceblau pŵer yn y siambr, glanhau’r siambr swmp a gosod pibellau newydd.

Roedd angen gweithio mewn man cyfyng ar gyfer yr holl waith ac fe’i cwblhawyd gan Pump Supplies o Bort Talbot. Mae’r system bellach yn barod i weithio ar gyfer y digwyddiad llifogydd nesaf.

Cwmnïau lleol a gyflenwodd y nwyddau a’r gwasanaethau i gwblhau’r gwaith hwn.