Cynllun i dargedu cludwyr gwastraff anghyfreithlon yn Sir Ddinbych

Bydd ymgyrch ar y cyd rhwng gwahanol asiantaethau yn cael ei chynnal i fynd i'r afael â chludwyr gwastraff anghyfreithlon a masnachwyr twyllodrus yn Sir Ddinbych.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymuno â chydweithwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) am ddiwrnod o weithredu yn y Rhyl. Bydd y bartneriaeth yn targedu cludwyr gwastraff sy'n gweithredu heb drwydded a throseddwyr sy'n defnyddio'r ffyrdd i gyflawni troseddau gwastraff.

Bydd unrhyw gerbydau amheus yn cael eu stopio gyda'r nod o ddarganfod a oes unrhyw wastraff yn eu cerbyd ac i ble y mae’n cael ei gludo. Os canfyddir bod unrhyw droseddau gwastraff wedi digwydd, bydd Swyddogion Gorfodi CNC wedyn yn ymdrin â nhw yn y modd priodol.

Bydd Taclo Tipio Cymru hefyd yng nghanolfan siopa’r Rhosyn Gwyn ddydd Mawrth 30 Ionawr i siarad â phreswylwyr am ein cyfrifoldebau o ran y ddyletswydd gofal gwastraff fel cymuned. Bydd hefyd sesiwn codi sbwriel a bydd lonydd cefn lleol yn cael eu tacluso gyda chefnogaeth gan y Tîm Gwneud Iawn â'r Gymuned a oruchwylir gan y Gwasanaeth Prawf.

Dywedodd Heledd Wynne-Evans, Swyddog Taclo Tipio Cymru CNC:

“Mae gweithredu yn erbyn cludwyr gwastraff anghyfreithlon a throseddwyr a all achosi difrod sylweddol i’n hamgylchedd naturiol yn rhan o’n hymrwymiad i amddiffyn pobl a byd natur yng Nghymru. 
“Ar hyn o bryd mae ein partneriaid yn gorfod delio ag oddeutu 120 o achosion o dipio anghyfreithlon y mis yng Ngorllewin y Rhyl gyda chost gyfartalog o dros £100,000 y flwyddyn. Mae'r diwrnod gweithredu arfaethedig hwn yn cynnig cyfle hanfodol i fynd i'r afael â throseddwyr gwastraff anghyfreithlon yn yr ardal.
“Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i alw ar unrhyw un sy’n amau ​bod ​gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn digwydd yn eu hardal i roi gwybod amdano drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000. Os gwelwch achos o dipio anghyfreithlon yn eich ardal leol, rhowch wybod amdano i’ch awdurdod lleol.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: 

“Mae tipio anghyfreithlon yn fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn drosedd. Mae’n difetha ein tirwedd ac yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd y trigolion.
“Mae’r mwyafrif o bobl yn parchu’r gyfraith ac yn cael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol drwy gasgliadau gwastraff y cyngor neu drwy fynd ag eitemau i’n canolfannau ailgylchu. Rydym wedi mabwysiadu system archebu barhaol ym mhob un o’n canolfannau ailgylchu oherwydd bod yn fwy effeithlon i’w gweithredu ac yn fwy cyfleus i’r cyhoedd gan ei fod yn lleihau ciwio ar adegau prysur.
“Does dim esgus dros ddympio sbwriel yn unman ac ni fydd y Cyngor yn goddef yr ymddygiad hwn. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am droseddwyr dylent gysylltu â ni a byddwn yn delio â’r bobl hynny drwy’r sianeli priodol.”