Sut y gallwch chi ofalu am yr amgylchedd ar Noson Tân Gwyllt
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar y cyhoedd a busnesau lleol i ystyried effaith amgylcheddol digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Noson Tân Gwyllt.
Mae CNC yn cydweithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i hyrwyddo hyn a sicrhau bod pawb yn cael amser diogel a dymunol.
Mae lleiafrif bach yn defnyddio Noson Tân Gwyllt i losgi eitemau gwastraff fel teiars, pren wedi'i drin, plastig, tanwyddau, metel a gwydr sy'n gallu cael effaith barhaol ar yr amgylchedd. Dim ond gwastraff gardd sych, pren heb ei drin symiau bach o ddail ddylai gael eu llosgi.
Bydd Swyddogion CNC allan mewn gwahanol leoliadau ledled Gogledd Cymru heddiw (3 Tachwedd) yn mynychu lleoliadau lle bu digwyddiadau diweddar yn ymwneud â llosgi.
Bydd y swyddogion wrth law i roi cyngor ac arweiniad i fusnesau neu aelodau o'r cyhoedd sydd wedi dechrau adeiladu coelcerthi.
Meddai Carys Williams, Arweinydd Tîm Rheoli Gwastraff Gogledd Ddwyrain Cymru:
"Os ydych chi'n bwriadu cynnau coelcerth yr wythnos hon, rydym yn gofyn i bobl fod yn synhwyrol am yr hyn maen nhw'n ei losgi.
"Rydyn ni am atgoffa'r cyhoedd ei bod hi'n drosedd gwaredu gwastraff mewn ffordd a all achosi llygredd i'r amgylchedd o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
"Gall llosgi gwastraff ryddhau nwyon niweidiol i'r amgylchedd, achosi problemau iechyd i'r rhai sy'n anadlu’r aer llygredig a chynyddu llygredd aer.
"Cyn cynnau eich coelcerth, mae hefyd yn syniad da gwirio nad yw draenogod neu anifeiliaid eraill wedi gwneud defnydd o'ch coelcerth fel lle i aeafgysgu."