Hwyl yr ŵyl yn yr awyr agored

10 peth y mae angen i chi eu cadw mewn cof wrth fwynhau cefn gwlad

Boed yn daith hamddenol yn awyr iach y gaeaf, yn dro bach cyn y cinio Nadolig i godi archwaeth, neu'n daith gerdded ar Ŵyl San Steffan i adfywiogi, mae cyfnod y Nadolig yn adeg pan fydd llawer yn mynd allan i'r awyr agored ac yn mwynhau cefn gwlad.

O gopaon dan gapan o eira a chaeau dan garped o farrug i draethau prydferth, mae Cymru’n frith o olygfeydd hardd a gwyllt y gallwch eu mwynhau’n ofalus yn y gaeaf gymaint ag y gallwch yn ystod y misoedd cynhesach.

Ac ynghyd â’r penderfyniad hollbwysig o ran pa dafarn wledig – gyda’i thanllwyth o dân – y byddwch chi’n stopio ynddi ar y ffordd, dyma restr o 10 peth y mae angen i chi eu cadw mewn cof wrth fwynhau cefn gwlad y Nadolig hwn:

  1. Gwiriwch eich llwybr a’r amodau lleol, a chynlluniwch eich antur yn ofalus: mae tywydd Cymru yn anwadal, felly mae'n bwysicach fyth yn ystod y misoedd oerach a gwlypach eich bod chi'n barod am yr amodau. A pheidiwch â dibynnu ar Wi-Fi pan fyddwch chi allan; sicrhewch fod gennych fap wrth law neu lawrlwythwch fap o'ch llwybr i'w ddefnyddio all-lein.

  2. Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau sydd wedi’u marcio oni bai bod mynediad ehangach ar gael: ymgyfarwyddwch ag arwyddion a symbolau cefn gwlad, a chadwch olwg amdanynt bob amser. Er enghraifft, a oeddech chi'n gwybod nad yw'r arwydd mes yn symbol o fwyd gwiwerod, ond yn hytrach o Lwybr Cenedlaethol!

  3. Byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helo, rhannwch y gofod: lledaenwch ychydig o lawenydd dros y Nadolig a chyfarchwch bwy bynnag a welwch chi, gallai ambell air drawsnewid diwrnod rhywun (mae hyn yn rhan o God Cefn Gwlad Cymru - rydyn ni’n griw cyfeillgar!).

  4. Byddwch yn ystyriol i’r rhai sy’n byw yng nghefn gwlad, yn gweithio ynddo ac yn ei fwynhau: parchwch bawb a phopeth y dewch ar ei draws yng nghefn gwlad, yn enwedig y ffermwyr sy’n gweithio bob awr o’r dydd – hyd yn oed ar Ddydd Nadolig.

  5. Gofalwch am fyd natur - peidiwch ag achosi difrod nac aflonyddwch: gadewch greigiau, cerrig, planhigion a choed fel yr oeddent a pheidiwch â tharfu ar fywyd gwyllt; mae hynny'n cynnwys celyn, uchelwydd a’r robin goch sy’n trydar nerth ei ben.

  6. Gadewch giatiau ac eiddo fel yr oeddent: p’un a ydych chi ar eich pen eich hun neu mewn grŵp, gwnewch yn siŵr bod y person olaf yn gwybod sut i adael y giatiau. Mae ffermwyr yn aml yn cau giatiau i gadw anifeiliaid i mewn neu'n eu gadael ar agor er mwyn rhoi mynediad i fwyd a dŵr. Rydyn ni eisiau i’r asyn bach fod ar ochr iawn y cae.

  7. Peidiwch â rhwystro mynediad i fynedfeydd neu dramwyfeydd pan fyddwch yn parcio: parciwch mewn mannau diogel, amlwg yn unig a gwnewch yn siŵr nad yw eich car, eich beic neu'ch sled eira yn rhwystro mynediad pwysig i ffermwyr a phobl sy'n byw yno.

  8. Ewch â’ch sbwriel adref – peidiwch â gadael unrhyw ôl o’ch ymweliad: cofiwch ddod â bag gyda chi ac ewch â’ch sbwriel a’ch gwastraff bwyd adref – mae hynny’n cynnwys cracers Nadolig, sbwriel o’ch pecyn bwyd ar Ŵyl San Steffan a’r oren o’ch hosan anrhegion. Defnyddiwch finiau cyhoeddus neu ailgylchwch os gallwch chi; mae sbwriel yn difetha harddwch cefn gwlad a gall fod yn beryglus i fywyd gwyllt a da byw.

  9. Cadwch eich cŵn dan reolaeth ac yn y golwg bob amser: mae cefn gwlad, parciau a’r arfordir yn lleoedd gwych i fynd â’ch ci am ymarfer corff ond mae angen ichi ystyried defnyddwyr eraill a bywyd gwyllt. Cadwch eich ci dan reolaeth effeithiol, ar dennyn, neu yn y golwg i sicrhau ei fod yn cadw draw oddi wrth fywyd gwyllt, da byw, ceffylau, ceirw a phobl eraill oni bai ei fod yn cael ei alw draw.

  10. Bagiwch a biniwch faw ci mewn unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu ewch ag ef adref: nid yw baw ci wedi’i adael ar lwybr yn anrheg Nadolig dymunol felly glanhewch ar ôl eich ci bob amser i atal salwch mewn pobl, da byw a bywyd gwyllt. Peidiwch byth â gadael bagiau o faw ci o gwmpas, hyd yn oed os ydych chi'n bwriadu eu casglu yn nes ymlaen. Gall bagiau a chynwysyddion â diaroglyddion wneud bagiau o faw cŵn yn haws i'w cario. Os na allwch ddod o hyd i fin gwastraff cyhoeddus, dylech fynd ag ef adref a defnyddio'ch bin eich hun.

Gellir dod o hyd i'r cyngor hwn a mwy yng Nghod Cefn Gwlad Cymru. Dysgwch fwy yma: www.cyfoethnaturiol.cymru/cod-cefn-gwlad