Defnyddio ceffylau i adfer coetir Coed Mawr

Dau geffyll mewn coedwig

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi defnyddio technegau traddodiadol o dorri a thrin coed gyda cheffylau i gael gwared â phren a helpu i adfer coetir lled-naturiol hynafol yng Nghoed Mawr, ger Rhisga.

Roedd y gwaith yn cynnwys teneuo rhai o goed hemlog y gorllewin mwy a oedd wedi ymsefydlu yn y coetir.

Mae cael gwared ar y coed yn caniatáu i fwy o olau gyrraedd llawr y goedwig, gan annog mwy o amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt a chefnogi’r nod hirdymor o adfer y safle i goetir llydanddail.

Gan fod Coed Mawr yn gynefin sensitif, dewisodd CNC ddefnyddio ceffylau i echdynnu’r pren yn hytrach na pheiriannau modern.

Gall ceffylau weithio yn yr amodau hyn wrth aflonyddu cyn lleied â phosibl ar y tir, gan helpu i warchod priddoedd ac ecosystemau bregus y coetir.

Dywedodd Rosalind Watkins, Uwch-swyddog Rheoli Tir CNC:

“Mae ceffylau wedi’u defnyddio i dorri a thrin coed ers miloedd o flynyddoedd ac mae’n dal i fod yn ddull hyfyw a chynaliadwy o echdynnu pren mewn coedwigaeth fodern.
“Mae’n ein galluogi i wneud gwaith rheoli coetiroedd hanfodol heb greu’r difrod a achosir gan beiriannau trwm weithiau, ac mae hyn yn addas iawn ar gyfer safleoedd sensitif fel Coed Mawr.
“Mae’r ceffylau’n helpu i adfer y coetir i’w gyflwr naturiol, gan greu cynefin iachach i fywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.”

Gwnaed y gwaith gan y contractwyr Rowan Working Horses – tîm bach o dri gweithredwr a dau geffyl.