Defnyddio ceffylau i dynnu coed heintiedig o Fforest Fawr

Ceffyl yn tynnu pren mewn coedig

Bydd timau Gweithrediadau Coedwig a Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn troi’r cloc yn ôl i ddefnyddio sgiliau coedwigaeth traddodiadol i deneuo ardal o goetir sensitif yn Fforest Fawr ger Tongwynlais, ar gyrion Caerdydd.

Mae defnyddio ceffylau yn dechneg rheoli gynaliadwy, hynafol mewn coedwigoedd lle mae ceffylau’n tynnu pren o ardaloedd cwympo coed heb fod angen peiriannau mawr a heb achosi fawr ddim difrod i’r ddaear a phlanhigion eraill.

Bydd y gwaith i deneuo a chynaeafu coed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora Ramorum, neu glefyd y llarwydd, yn dechrau ar 15 Ionawr 2024 a bydd yn parhau am oddeutu dri mis.

Mae'r coed heintiedig hyn o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol ac mae angen eu teneuo neu eu torri i atal y clefyd rhag lledaenu.

Nid llarwydd yn unig sy’n tyfu yn ardal y gweithrediadau, sy’n 4.7 hectar o faint; mae’r gweddill yn rhywogaethau llydanddail brodorol na fyddant yn cael eu cwympo. Mae angen gwaith torri a symud coed manwl gywir er mwyn lleihau difrod i'r coed llydanddail a nodweddion archaeolegol pwysig eraill o’u hamgylch.

Bydd teneuo'r llarwydd hefyd yn caniatáu i'r canopi llydanddail gynyddu. Fel Safle Coetir Hynafol a Blannwyd, bydd y gwaith hwn yn helpu i adfer a gwella ei botensial ecolegol.

Bydd ceffylau, cerbydau ceffylau, darpariaethau lles ac offer cysylltiedig yn cael eu cadw ar y safle trwy gydol y gwaith.

Er y bydd maes parcio Fforest Fawr yn parhau ar agor, gofynnir i ymwelwyr â’r coetir gadw at unrhyw arwyddion diogelwch neu ddargyfeiriadau, a chadw cŵn ar dennyn yn yr ardal waith ac o’i chwmpas.

Dywedodd Chris Rees, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae ceffylau wedi cael eu defnyddio i wneud gwaith coedwigaeth ers miloedd o flynyddoedd ac mae’n dal i fod yn ddull hyfyw a chynaliadwy o symud pren mewn gweithrediadau coedwig modern.
“Mae defnyddio ceffylau yn hytrach na pheiriannau mewn ardaloedd amgylcheddol sensitif yn rhoi ateb effaith isel ac ystyriol i ni, yn enwedig ar gyfer rheoli coetiroedd hynafol pwysig a safleoedd archaeolegol.
“Fe wnaethon ni ddefnyddio ceffylau mewn coetiroedd eraill yng Nghanol De Cymru y llynedd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gadw’r traddodiad gwych hwn yn fyw yn Fforest Fawr.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwig Canol De Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch forestops.sc@naturalresources.wales