Nodi hanes canolfan feicio mynydd â bwrdd arbennig

Mae’r hanes amaethyddol y tu ôl i’r safle sy’n gartref i ganolfan feicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain wedi’i ddatgelu.

Agorwyd Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau, ym 1996 ac mae’r safle, sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn dal i fod yn un o brif leoliadau’r gamp.

Bellach mae bwrdd hanes arbennig, sy’n cynnwys atgofion a map o 1901, wedi’i greu ar y cyd â theulu a fu’n ffermio ar ran o’r tir.

Roedd Cae Cyrach wedi’i leoli ar ran o safle Coed y Brenin, ac mae ysgubor gerrig o’r fferm i’w gweld yno o hyd.

Daeth Elfed Wyn ap Elwyn, 26, o Drawsfynydd, at CNC gydag atgofion gan ei nain Eluned Jones am y fferm. Meddai:

“Mi wnaethon ni ddefnyddio’r wybodaeth gan fy nain i greu’r bwrdd hanes. Mi gafodd ei mam hi naill ai ei geni ar y fferm neu fe fuodd hi’n byw yno, a phan roedd fy nain yn ifanc, roedd hi’n arfer ymweld.

“Roedd y fferm yn rhan bwysig o’r teulu. Mae’r teulu’n dod o’r ardal ac i mi mae’n rhywbeth pwysig iawn.

“Dw i’n meddwl bod y bwrdd yn beth arbennig. Dw i’n ddiolchgar iawn ei fod wedi’i osod, a baswn yn annog ymwelwyr i ddod i edrych arno a chael teimlad o’r hanes.”

Ychydig o wybodaeth sydd ar ôl am y fferm, ond mae ysgubor gerrig i’w gweld ar y ffordd am faes parcio Coed y Brenin o’r A470. 

Bu Peter Thomas, sy’n rhan o dîm hamdden CNC yng Nghoed y Brenin, yn gweithio gyda’r teulu ar y bwrdd.Meddai:

“Rydym yn falch ein bod wedi cael y cyfle i weithio gydag Elfed a’i deulu.

“Fe ddaeth aton ni gydag atgofion ei nain, a dywedodd y byddai’n braf coffáu hanes Cae Cyrach. Fe benderfynon ni mai panel fyddai’r ffordd orau ymlaen, ac fe fuon ni’n gweithio gydag Elfed, gan ymgorffori atgofion Eluned. 

“Mae hyn yn ein galluogi i gydnabod y defnydd blaenorol o’r safle ac mae’n ddiddorol dysgu beth roedd yn ei olygu i bobl yn y gorffennol. Rydyn ni hefyd yn falch y bydd ein hymwelwyr yn gallu dysgu am hanes y safle.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn wneud mwy o’r math yma o waith yn y dyfodol a byddem yn annog pobl i ddod aton ni gyda’u straeon a’u hatgofion.”