Arhoswch tra bod ein crynodeb o rybuddion llifogydd yn llwytho.
Disgwyl glaw trwm ar draws canolbarth a de Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i fod yn barod amlifogydd posibl gan fod disgwyl i law dros gyfnod hir effeithio ar ardaloedd o Gymru tan ganol dydd Sul.
Mae'r Swyddfa Dywydd ar gyfer de a chanolbarth Cymru wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn ar gyfer glaw gyda thebygolrwydd dŵr wyneb a llifogydd afonydd.
Rhagwelir y bydd y glaw trwm yn disgyn o fore Gwener ac yn parhau bron yn gyson tan ganol dydd Sul.
Bydd gweithwyr ymateb brys o CNC ar safleoedd allweddol, gan sicrhau bod amddiffynfeydd mewn cyflwr da ac yn sicrhau bod unrhyw gridiau a sgriniau draenio yn glir i leihau'r risg i bobl a'u cartrefi.
Dywedodd Gary White, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd, o Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Gall y tywydd a ragwelir achosi llifogydd yn ne a chanolbarth Cymru felly rydym yn cynghori pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd a roddir yn eu hardal drwy ein gwefan, sy'n cael ei diweddaru bob 15 munud.
"Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid o'r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol i leihau'r risg i gymunedau.
"Gall dŵr llifogydd fod yn beryglus dros ben, ac rwy'n annog pobl i beidio â cheisio cerdded neu yrru drwyddo, oni bai bod y gwasanaethau brys yn cyfarwyddo hynny."
Mae gwasanaeth newydd ar glawiad, lefelau afonydd a môr ar gael ar ein gwefan, yn ogystal â rhybuddion llifogydd, gyda negeseuon a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd