Cyfle i ddweud eich dweud ar gynlluniau i sicrhau dyfodol pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Gogledd-orllewin Lloegr (NWIFCA) yn gwahodd rhanddeiliaid i gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu i drafod cynigion ar gyfer Gorchymyn Rheoleiddio newydd ar gyfer pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy.
Mae'r sefydliadau'n cydweithio i wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio newydd yn lle’r Gorchymyn presennol a gafodd ei gyflwyno yn 2008. Mae'r Gorchymyn presennol wedi helpu i drawsnewid Aber Afon Dyfrdwy yn un o'r pysgodfeydd cocos sy'n cael ei rheoli’n fwyaf cynaliadwy yn y DU.
Nod y Gorchymyn newydd arfaethedig yw datblygu’r llwyddiant hwnnw a sicrhau bod y bysgodfa'n parhau i fod yn gynaliadwy, wedi'i rheoli'n dda ac yn wydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan barhau i ddarparu manteision i gasglwyr cocos, cymunedau lleol a'r amgylchedd naturiol.
Bydd y Gorchymyn Rheoleiddio presennol yn dod i ben ym mis Mehefin 2028. Heb Orchymyn arall yn ei le, mae risg uwch o or-gynaeafu, cynefinoedd yn dirywio a cholli manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pwysig. Byddai Gorchymyn newydd yn darparu'r fframwaith cyfreithiol a gweithredol sydd ei angen i gefnogi cynaeafu cynaliadwy, amddiffyn cynefinoedd a sicrhau mynediad teg i'r bysgodfa.
Bydd cyfres o sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cael eu cynnal ym mis Awst i roi cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion a rhannu eu barn gyda thîm y prosiect.
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal yn:
- Dydd Iau 6 Awst – Grange-over-Sands, Cumbria
The Old Police Room (Ystafell 4), Victoria Hall, Main Street, Grange-over-Sands, LA11 6DP
- Dydd Mercher 12 Awst – Maes Glas, Sir y Fflint
Ystafell Ysgol Fictoraidd, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas, Ffordd Maes Glas, Maes Glas, Treffynnon, CH8 7GH
- Mercher 19 Awst – Wallasey, Glannau Mersi
Wallasey Beach CIC, Coastal Drive, Wallasey, CH45 3PZ
- Dydd Mercher 26 Awst – Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Neuadd y Ffwrnes, Neuadd Gymunedol y Ffwrnes, 51 Heol y Strade, Llanelli, SA15 4ET
Dywedodd Stuart Thomas, Arweinydd Tîm, Rheoli Cynaliadwy Morol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy yn cael ei chydnabod yn un o’r pysgodfeydd o’i math sy’n cael ei rheoli orau yn y DU. Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y bysgodfa i gymryd rhan yn y sesiynau ymgysylltu hyn, a helpu i lunio cynigion a fydd yn cefnogi ei chynaliadwyedd hirdymor, yn ogystal â’r manteision mae’n eu darparu i bobl a byd natur.”
Dywedodd Mark Taylor, Prif Swyddog Gweithredol NWIFCA:
“Mae IFCA Gogledd-orllewin Lloegr yn annog pawb sydd â diddordeb ym mhysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy i ddod i un o’r digwyddiadau hyn a rhannu eu barn. Bydd eich adborth yn helpu NWIFCA a CNC i ddatblygu prosesau rheoli effeithiol a chynaliadwy ar gyfer y bysgodfa o dan y Gorchymyn Rheoleiddio newydd arfaethedig.”
Gofynnir i randdeiliaid sydd am ddod drefnu lle ymlaen llaw drwy gysylltu â swyddfa NWIFCA ar 01524 727970 neu e-bostio office@nw-ifca.gov.uk. Mae sesiynau ar gael drwy apwyntiad ymlaen llaw yn unig, gyda slotiau 45 munud ar gael bob awr o 10:00am ymlaen.
Er ein bod ni’n annog cyfranogiad drwy'r sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb lle bo modd, mae’n bosibl i chi gyflwyno adborth dros e-bost hefyd, drwy ei anfon i deecockleregulatingorder@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Rhagor o wybodaeth ar Gorchymyn Rheoleiddio pysgodfa gocos Aber Afon Dyfrdwy.