Digwyddiad Hacathon ar drywydd atebion arloesol i broblemau llygredd Afon Teifi

Mae cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau cymunedol ac elusennau yn y digwyddiad hacathon, Prifysgol Aberystwyth

Mae cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau, grwpiau cymunedol ac elusennau wedi dod ynghyd i gydweithio mewn digwyddiad hacathon i ddod o hyd i atebion arloesol a ffyrdd newydd o weithio i wella ansawdd dŵr yn Afon Teifi.

Trefnwyd y digwyddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel rhan o Brosiect Dalgylch Arddangos Afon Teifi, a lansiwyd y llynedd.

Mae’r Hacathon, a gynhelir dros ddau ddiwrnod (28/29 Chwefror), yn gyfle i bartneriaid weithio gyda’i gilydd i ddatrys rhai o’r heriau sy’n wynebu ansawdd dŵr a bioamrywiaeth yn nalgylch Afon Teifi, a meddwl am gyfleoedd i fynd i’r afael â nhw mewn ffyrdd newydd.

Mae materion fel defnydd tir ac amaethyddiaeth, gorfodi a rheoleiddio, atebion seiliedig ar natur a gwyddoniaeth dinasyddion ymhlith y nifer o themâu sy’n cael eu harchwilio.

Bydd y prosiect yn ystyried atebion tymor byr a thymor hir a nodir dros y ddau ddiwrnod i'w datblygu wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC:

“Mae cydweithio a phartneriaeth wrth galon Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi, ac mae wedi bod yn wych casglu cymaint o gyfoeth o wybodaeth, profiad ac arbenigedd ynghyd mewn un ystafell.
“Rydyn ni’n gwybod beth yw’r problemau sy’n wynebu Afon Teifi, fel llawer o afonydd eraill yng Nghymru, ond er mwyn canfod gwelliannau ymarferol a fydd yn para, bydd angen perthnasoedd cryfach, ffyrdd newydd o weithio a dulliau arloesol o fynd i’r afael â heriau hen a newydd.
“Mae’r gefnogaeth a’r ymrwymiad rydym wedi’u cael dros y ddau ddiwrnod hyn wedi bod yn amhrisiadwy, gyda phartneriaid yn gweithio tuag at uchelgais gyffredin o wella Afon Teifi ar gyfer ei phobl a’i bywyd gwyllt. Bydd y trafodaethau hyn yn llywio cwmpas y prosiect wrth symud ymlaen.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae gwella ansawdd dŵr yn fater cymhleth sy'n gofyn am ddull cydweithredol.
"Mae wedi bod yn wych ymweld heddiw i weld y dull 'Tîm Cymru' ar waith a chymryd rhan mewn fforwm agored a gonest lle gall pobl drafod eu syniadau.
"Mae yna waith gwych yn digwydd o amgylch Afon Teifi ac rwy'n gobeithio y gallwn ei ddefnyddio i ddatblygu model 'arfer gorau' y gellir ei ailadrodd ledled Cymru."

Dywedodd yr Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth: 

“Roedden ni’n falch gallu cyfrannu at y trafodaethau pwysig hyn sy’n cael eu trefnu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae llawer o arbenigedd amgylcheddol perthnasol yma yn Aberystwyth – gwaith ymchwil sy’n chwarae rhan allweddol wrth ddatrys yr heriau hyn.
“Roeddwn i hefyd yn ddiolchgar i gael cwrdd â’r Gweinidog – tanlinellodd ei phresenoldeb bwysigrwydd y materion hyn i agenda’r llywodraeth.”

Daw'r term 'Hacathon' o'r diwydiant TGCh ac mae'n cyfeirio at ddigwyddiad sy'n dod â rhaglenwyr cyfrifiadurol a phartïon eraill sydd â buddiant ynghyd i wella meddalwedd newydd.

Mae bellach yn cael ei ddefnyddio'n ehangach mewn diwydiannau eraill i greu digwyddiadau sy'n cefnogi cydweithredu ac arloesi.

Nod Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi yw ategu mentrau presennol eraill i wella Afon Teifi, gan gynnwys Prosiect Pedair Afon CNC.

Mae tîm ar gyfer y prosiect, sy'n cynnwys 16 o bartneriaid, wedi gwneud cais am arian i Gronfa Arloesi Ofwat i gefnogi'r gwaith o gyflawni camau gweithredu.

Yr uchelgais ar gyfer y prosiect yw datblygu model y gellir ei ehangu a'i ailadrodd mewn dalgylchoedd afonydd eraill yng Nghymru yn y dyfodol.