O ymyl difodiant: Ymdrech gadwraeth ledled Cymru i achub ein cimychiaid afon brodorol

Crafinen bwrdd wyn o dan y dwr Credyd Tamasine Stretton

Mae cadwraeth cimychiaid yr afon yn cynyddu ledled Cymru wrth i sefydliadau gydweithio i amddiffyn y cimwch afon crafanc wen, rhywogaeth frodorol sydd mewn perygl o ddiflannu o afonydd Cymru.

Ar un adeg roedd y cimwch afon crafanc wen yn ffynnu ledled Cymru, ond bellach mae mewn perygl ac yn wynebu difodiant oherwydd pwysau cynyddol gan rywogaethau goresgynnol fel y cimwch afon arwyddol o Ogledd America, llygredd, newid hinsawdd a chynefinoedd yn cael eu colli’n barhaus.

Er mwyn helpu i atal eu dirywiad yng Nghymru a hybu’r poblogaethau sy’n weddill, mae cadwraethwyr yn gweithio i sefydlu safleoedd ‘arch’, sef lleoliadau lle gellir sefydlu poblogaethau newydd o gimychiaid afon crafanc wen yn ddiogel.

Gwyddoniaeth a chamau gweithredu ar y cyd yn afonydd canolbarth Cymru

Yn 2021, cychwynnodd astudiaeth ganolog a ariannwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac a arweiniwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, fenter gadwraeth gydweithredol i warchod cimychiaid afon crafanc wen brodorol yng ngogledd Powys.

Fel rhan o’r astudiaeth, sefydlwyd gweithgor yn cynnwys CNC, Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Glandŵr Cymru, Prosiect WAREN Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Phrifysgol Aberystwyth i annog camau monitro, ymchwil a chamau adfer ar lawr gwlad.

Olrhain newid drwy wyddoniaeth

Mae gwaith parhaus i samplu DNA amgylcheddol (eDNA) yn afon Banwy yn helpu i fapio poblogaethau cimychiaid yr afon gan ddefnyddio samplau dŵr. Mae’r dechneg hon yn hanfodol ar gyfer deall dosbarthiad presennol cimychiaid yr afon a phresenoldeb pla cimychiaid yr afon ar draws tri o ddalgylchoedd afonydd Sir Drefaldwyn.

Magu caeth ar gyfer y dyfodol

Yn neorfa CNC yng Nghynrig, mae swyddogion yn ymgymryd â rhaglen waith i gasglu benywod wyog (cimychiaid yr afon sy’n cario wyau) i fagu’r rhai ifanc mewn amodau rheoledig diogel.  Yn y gwyllt, mae’r gyfradd oroesi hyd at aeddfedu yn llai na 10%, ond yn y ddeorfa gall hyn godi i tua 90%. Y nod yw rhyddhau’r cimychiaid afon ifanc i safleoedd arch ar ddiwedd haf 2025, sef carreg filltir bwysig mewn partneriaeth bedair blynedd i amddiffyn un o gadarnleoedd olaf Sir Drefaldwyn ar gyfer y cimwch afon crafanc wen.

Hyd yn hyn, mae’r ddeorfa wedi magu dros 7,000 o gimychiaid yr afon yn llwyddiannus, gan gefnogi ymdrechion cadwraeth mewn sawl safle ledled Cymru a Lloegr.

De Cymru: Adeiladu hafanau diogel i rywogaeth frodorol

Yn ne Cymru, mae swyddogion CNC yn defnyddio trapiau lloches artiffisial fel ffordd o fonitro poblogaethau o gimychiaid yr afon yn Sir Fynwy.

Mae’r trapiau artiffisial, a osodwyd mewn cwrs dŵr ym mis Mawrth, yn dynwared llochesi naturiol gan ddefnyddio cyfres o bibellau â phennau agored. Maent wedi’u cynllunio i ganiatáu i’r cimychiaid afon fynd a dod fel y mynnant, gan ddefnyddio’r ‘trap’ fel lloches.

Ar ddiwedd mis Mai, dychwelodd swyddogion i’r safle i wirio’r trapiau ac roedd yn galonogol gweld bod mwy na 100 o gimychiaid afon crafanc wen yn defnyddio’r trapiau ac o dan gerrig, gan gynnwys ugain o fenywod yn cario wyau.   

Bydd y cimychiaid afon benyw yn cael eu cludo i ddeorfa CNC, i ganiatáu i’r wyau ddeor, cyn cael eu dychwelyd i’r cwrs dŵr yn Sir Fynwy. Bydd y cimychiaid afon ifanc yn aros yn y ddeorfa am tua dwy flynedd cyn cael eu rhyddhau i safle arch addas, gan gynyddu eu siawns o oroesi.

Dywedodd Oliver Brown, swyddog dyframaethu Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae’r cimwch afon crafanc wen yn chwarae rhan hanfodol yn ecosystemau ein hafonydd ac mae’n arwydd o ddyfroedd glân ac iach. Yn anffodus, mae ymhell dros hanner poblogaeth y DU wedi diflannu ers y 1970au, gydag achosion lleol o ddifodiant mewn llawer o fasnau afonydd.
Gan weithio gyda phartneriaid, rydym yn adeiladu rhaglen gydlynol, hirdymor i ddeall ble mae ein cimychiaid afon brodorol a rhoi cyfle iddynt oroesi.
Drwy roi mantais i gimychiaid afon ifanc a chreu safleoedd arch, rydym yn rhoi ail gyfle i’r rhywogaeth hon. Ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pennau ein hunain. Mae angen help arnom gan bysgotwyr, cerddwyr a phawb sy’n treulio amser mewn neu gerllaw afonydd. Mae dyfodol y rhywogaeth yn dibynnu ar yr hyn a wnawn ni i gyd nesaf.

Dywedodd Tammy Stretton, swyddog cadwraeth yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn:

Mae’r heriau sy’n wynebu cimychiaid afon crafanc wen yn amrywiol ac yn gymhleth; mae Gweithgor Cimychiaid yr Afon Sir Drefaldwyn wedi profi’n hanfodol ar gyfer sicrhau dyfodol i’r rhywogaeth hon sydd dan fygythiad yng nghanolbarth Cymru. Drwy gydweithio nid yn unig â chyrff anllywodraethol amgylcheddol eraill, ond hefyd ag CNC a Phrifysgol Aberystwyth, rydym wedi gallu cymryd camau ar y cyd na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.
Mae gennym yr wybodaeth a’r arbenigedd yn y gweithgor i ymateb yn gyflym i’r wybodaeth ac ymchwil ddiweddaraf a gwneud defnydd effeithlon o adnoddau cyfyngedig. Mae’r gweithgor hwn yn darparu model gwych ar gyfer cydweithio tuag at nod cyffredin.

Gallwch chithau chwarae rhan i helpu i amddiffyn y rhywogaeth anhygoel hon hefyd.

Drwy ymarfer bioddiogelwch da – yn enwedig y dull Edrych, Golchi, Sychu – gallwch chi helpu i atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol yn ein dyfroedd. Cofiwch wneud y canlynol:

EDRYCH: Archwiliwch eich cyfarpar, eich cwch a’ch dillad am unrhyw fwd, planhigion neu anifeiliaid dyfrol ar ôl gadael y dŵr. Gadewch unrhyw beth yr ydych yn dod o hyd iddo ar ôl ar y safle.

GOLCHI: Glanhewch eich offer yn drylwyr cyn gynted â phosibl, gan ganolbwyntio ar rannau a allai fod yn llaith neu’n anodd eu cyrraedd.

SYCHU: Gadewch i bopeth sychu’n llwyr cyn ei ddefnyddio eto – gall rhai rhywogaethau goresgynnol oroesi am dros bythefnos mewn amodau llaith.

Os gwelwch chi gimwch yr afon, gallwch ei gofnodi drwy dynnu llun a lanlwytho’r wybodaeth i Hafan | iRecord.

Gofalwch eich bod yn osgoi tarfu ar gimychiaid afon crafanc wen gan ei bod yn anghyfreithlon gwneud hynny heb drwydded.

Os gwelwch gimychiaid yr afon sydd wedi marw, gallwch roi gwybod am hyn, ynghyd â’r lleoliad, i linell gyfathrebu digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000  neu drwy ddefnyddio’r ffurflen adrodd ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad.