Dau gi bach yn mynd i’r coed... Agor maes chwarae newydd i gŵn mewn coetir cymunedol

Ci du yn sefyll o flaen twnel fel rhan o'r llwybr ymarfer

Mae perchnogion cŵn wedi croesawu agor llwybr gweithgareddau newydd yng Nghoetir Cymunedol Ysbryd y Llynfi ger Maesteg.

Llwybr cŵn oedd un o’r syniadau cychwynnol pan weithiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda’r gymuned leol i drawsnewid yr hen lofa a safle diwydiannol yng Nghwm Llynfi Uchaf i fod yn lle delfrydol i bobl ei fwynhau ac i natur ffynnu.

Wedi’i ddatblygu gyda’r Kennel Club a’i adeiladu gan dimau gweithrediadau Canol De Cymru CNC yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r llwybr yn ffordd wych i bobl a’u cŵn gadw’n heini wrth fwynhau’r awyr agored.

Mae pum gweithgaredd i roi cynnig arnynt, gan gynnwys igam-ogamu trwy byst pren, rhedeg trwy dwnnel, neidio dros glwydi a chydbwyso wrth gerdded ar hyd boncyff.

Mae byrddau gwybodaeth wrth ymyl pob gweithgaredd sy’n rhoi awgrymiadau i sicrhau bod cŵn a’u perchnogion yn ddiogel wrth ddefnyddio’r llwybr.

Mae Coetir Ysbryd y Llynfi hefyd yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau i bobl leol eu mwynhau, gan gynnwys llwybrau cerdded, beicio a rhedeg sy'n mynd trwy dirwedd o goetir, pyllau, corstir a gweundir. Plannwyd mwy na 60,000 o goed ar y safle, gan gynnwys cymysgedd o goed llydanddail, coed ffrwythau a choed addurniadol.

Dywedodd Aneurin Cox, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

“Mae’n bleser gallu agor y llwybr gweithgareddau cŵn newydd hwn yn swyddogol. Mae'n ychwanegiad gwych i'r coetir cymunedol hwn, a ddyluniwyd gan ac ar gyfer y bobl leol i’w ddefnyddio a'i fwynhau.
“Y prif reswm dros ddatblygu’r coetir hwn oedd darparu mannau gwyrdd yr oedd dirfawr eu hangen mewn cymuned drefol i wella iechyd a lles y trigolion.
“Mae troi hen safleoedd diwydiannol yn goetiroedd hefyd yn ein helpu yn ein nod i blannu mwy o goed ac adfer cynefinoedd i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
“Dyma enghraifft wych o sut y gall gweithio ar y cyd fod o fudd i bawb, gan gynnwys ein ffrindiau blewog!”

Datblygodd CNC y coetir cymunedol hwn mewn partneriaeth â thrigolion Cwm Llynfi Uchaf ac roedd hefyd yn ymgorffori syniadau plant lleol.

Mae'r coetir yn cael ei reoli drwy bartneriaeth rhwng CNC, Llais y Goedwig a nifer o wirfoddolwyr lleol.

Ariannwyd creu'r coetir a'r llwybr gweithgareddau cŵn newydd trwy Gronfa Natur Llywodraeth Cymru a Chronfa Cwmni Moduron Ford.

Ewch i dudalen Coetir Ysbryd y Llynfi i gael mwy o wybodaeth am y llwybr gweithgareddau cŵn newydd.