Gosod pwyntiau gwefru am ddim mewn canolfan beicio mynydd

Mae pwyntiau gwefru beiciau trydan wedi cael eu gosod yng nghanolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gosod 16 pwynt gwefru am ddim ar gyfer defnyddwyr e-feiciau yng Nghoed y Brenin, ger Dolgellau, sy’n denu 180,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae e-feiciau yn dod yn fwy poblogaidd ac yn cyfrif am tua un o bob 20 beic sy’n cael ei werthu yn y DU.

Dywedodd Andy Braund, swyddog cymorth technegol CNC ar gyfer beicio mynydd yng Ngogledd Orllewin Cymru:
“Rydym yn gweld nifer y defnyddwyr e-feiciau sy’n ymweld â Choed y Brenin yn cynyddu ac mae gofalu bod eu beiciau yn cael eu gwefru yn ffactor bwysig pan fyddant yn penderfynu i ble byddant yn mynd.
“Mae darparu pwyntiau gwefru yn agor y posibiliadau i bobl a fyddai, cyn hynny, wedi gweld llwybrau’r safle yn rhy heriol yn gorfforol ar gyfer beicio, neu i rai â phroblemau iechyd neu anabledd.
“Mae hefyd yn caniatáu i bobl feicio yn hytrach na gyrru i’r safle, gan helpu i feithrin ymweliadau a thwristiaeth cynaliadwy a charbon isel.
“Mae hwn yn ychwanegiad newydd ardderchog i seilwaith beicio Coed y Brenin ac yn dangos ein hymrwymiad i groesawu e-feicwyr a’u helpu i fwynhau mwy ar ein rhwydwaith ardderchog o lwybrau.
“Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd â’n blaenoriaethau ehangach i sicrhau bod byd natur, pobl a chymunedau yn cael eu hailgysylltu.”

Mae'r gwefrwyr yn rhai 13 amp ac mae socedi a chloeon sy’n gwrthsefyll y tywydd ar gael o Beics Brenin, sy'n cynnig gwasanaeth llogi beiciau ar y safle.

Mae Llwybr 82 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n rhedeg mewn rhannau rhwng Bangor ac Abergwaun, yn mynd trwy Goed y Brenin a bydd y gwefrwyr hefyd ar gael i rai sy’n defnyddio’r llwybr hwnnw.

Mae nifer o lwybrau beicio mynydd yng Nghoed y Brenin ac maen nhw’n amrywio o lwybrau hawdd i rai eithafol.

Er mwyn cael arweiniad a gwybodaeth am reidio cyfrifol ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru /Beicio mynydd