Trawsnewid hen safle tirlenwi yn hwb bioamrywiaeth ac addysgol llewyrchus

Mae hen safle tirlenwi ar Ynys Môn wedi cael ei drawsnewid yn hafan i fywyd gwyllt a hwb addysgol llewyrchus, gyda diolch i brosiect Tirlenwi Gwyllt arloesol.
Mae safle Penhesgyn, sydd hefyd yn gartref i un o ganolfannau ailgylchu gwastraff Cyngor Sir Ynys Môn, bellach yn enghraifft wych o adferiad ecolegol ac addysg amgylcheddol.
Mae 50 acer o ddolydd blodau gwyllt ar y safle, ynghyd â 13 pwll dŵr newydd a nodweddion gwlypdir, clytwaith o gynefinoedd, coedwig newydd, ac ardaloedd mawnog sy’n gyfoethog o ran carbon - pob un yn cyfrannu at wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Yn ddiweddar, cafodd disgyblion o Ysgol y Borth ac Ysgol David Hughes gyfle i ymweld â safle Penhesgyn i ddysgu yn yr awyr agored a chael eu trochi ym mynd natur.
Roedd arbenigwyr wrth law, sef Jim Langley (Nature’s Work), Tony Roberts (Cyfoeth Naturiol Cymru), Poppy Backshall ac Angharad Powell (Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru). Cafodd y disgyblion gyfle unigryw i grwydro’r cynefinoedd newydd a deall mwy am fioamrywiaeth a chadwraeth.
Dywedodd Tony Roberts, Uwch Swyddog Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, a gyflwynodd y prosiect ar bedwar safle yng Ngwynedd a Môn yn 2020:
“Roedd yn braf cael croesawu disgyblion ac athrawon i’r Prosiect Tirlenwi Gwyllt, er mwyn iddynt gael dysgu am adferiad natur a datrysiadau carbon niwtral sy’n defnyddio dull tirwedd cyfan ar safleoedd tirlenwi a thir cysylltiedig.”
“Mae hwn yn ddatrysiad unigryw sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd ac a fydd yn helpu i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
“Rydym wedi cynhyrchu adnodd addysgol llawn gwybodaeth ar gyfer ysgolion a’r cyhoedd sydd ar gael ar wefan prosiect Tirlenwi Gwyllt . Yma gallwch ddysgu am y pum peth syml y gall pawb ei wneud i helpu i achub y blaned.”
Mae’r prosiect Tirlenwi Gwyllt wedi bod yn bosib gyda diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru drwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a gwaith ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a phartneriaid yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Nature’s Work ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru.
Mae’r prosiect Tirlenwi Gwyllt ehangach hefyd yn cynnwys 70 acer o dir amaethyddol wedi’i wella safon is o amgylch y safle ac felly mae cyfanswm o 120 acer yn ffurfio clytwaith o gynefinoedd bioamrywiol heb ffensys.
Defnyddiwyd system ‘llennyrch a rhodfeydd’ i blannu’r coed, er mwyn creu cymysgedd deinamig o fannau agored ac ynysoedd prysgwydd - sy’n hanfodol ar gyfer adferiad natur a chreu cynefinoedd ymylol.
Mae’r safle hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o liniaru effaith newid hinsawdd. Mae’r ardaloedd mawnog sy'n gyfoethog o ran carbon yn lleihau’r carbon sy’n cael ei ryddhau ac yn helpu i gwrdd â thargedau newid hinsawdd.
Dywedodd Cynghorydd Nicola Roberts, Deilydd Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ynys Môn:
“Mae’r newid ym Mhenhesgyn yn enghraifft anhygoel o’r modd y gallwn weithredu’n lleol i gefnogi ein nodau newid hinsawdd strategol. Mae adfer natur, gwella bioamrywiaeth a gwarchod mawndiroedd yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon a gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.”
“Bydd y prosiect hwn hefyd yn ein helpu ni i ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd a dod yn sefydliad sero net, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023-28. Rydw i’n falch o weld Ynys Môn yn arwain y ffordd yn y maes hynod bwysig hwn.”
Eglurodd Cynghorydd Dafydd Roberts, Deilydd Portffolio Addysg a’r Gymraeg:
“Mae’n hanfodol bwysig rhoi cyfle i blant ddeall pwysigrwydd stiwardiaeth amgylcheddol. Yn ystod yr ymweliad addysgol i Benhesgyn cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth a gweld effaith gadarnhaol prosiectau adfer fel hyn.”
“Gyda ffocws cadarn ar ddysgu, mae’r fenter hon hefyd yn cyfrannu at amcan strategol y Cyngor i addysgu drwy sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol, fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor 2023 i 2028.”
Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan prosiect Tirlenwi Gwyllt .