Digwyddiad galw heibio rheoli perygl llifogydd yn Aberdulais

Llifogydd Aberdulais

Mae model hydrolig Aberdulais, sy’n edrych yn fanwl ar y perygl llifogydd hirdymor yn yr ardal, bellach wedi’i gwblhau ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal digwyddiad galw heibio cyhoeddus i amlinellu ei ganfyddiadau a thrafod opsiynau gyda’r gymuned.

Rhwng 12-7pm ddydd Iau 7 Rhagfyr, bydd aelodau’r gymuned yn cael y cyfle i drafod llinell sylfaen y model, mynd drwy’r broses gwerthuso opsiynau a thrafod unrhyw awgrymiadau ar gyfer opsiynau amgen.

Mae cymuned Aberdulais wedi dioddef llifogydd sawl gwaith yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, lle mae cartrefi a busnesau wedi dioddef llifogydd mewnol. Roedd yr achos diweddaraf yn ystod Storm Dennis yn 2020 pan aeth llifogydd i mewn i 27 eiddo.

Ers hynny, mae rhan o’r llwybr troed ar hyd Afon Nedd wedi’i chodi i leihau’r perygl o lifogydd ar gyfer y llwybr a gosodwyd mesurau Gallu Eiddo i Wrthsefyll Llifogydd mewn 30 eiddo preswyl.

Dywedodd Merrissa Fallas, Swyddog Cyflawni Prosiectau a Rhaglenni ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym wedi gwneud gwaith helaeth i ddiweddaru’r model hydrolig ar gyfer Aberdulais ac rydym yn awyddus i rannu opsiynau gyda’r gymuned leol ac yn croesawu eu hadborth yn y sesiwn galw heibio hon.
Wrth i'r hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd a glaw trwm yn amlach, yn ogystal â chynnydd yn lefelau'r môr. Bydd hyn yn sicr o gynyddu'r perygl o lifogydd ac yn amharu ar y gymuned.
“Yn y digwyddiad hwn byddwn yn amlinellu’n glir ganlyniadau ein gwaith modelu ac yn cyflwyno’r opsiynau lliniaru perygl llifogydd a allai helpu i adeiladu gwytnwch yn yr ardal.
“Rwy’n annog aelodau o’r gymuned i fynychu’r sesiwn galw heibio.”

Dysgwch fwy am yr opsiynau mewn digwyddiad galw heibio anffurfiol ar Faes Golff Riverside, Aberdulais SA10 8ES ddydd Iau 7 Rhagfyr 2023. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb o 12pm-7pm a bydd tîm prosiect CNC gan gynnwys Binnies, yr ymgynghorydd dylunio, yn bresennol.