Cadwraeth dros y dibyn: Dringwyr yn tynnu rhododendron ymledol o wyneb clogwyni arfordirol yng Ngogledd Cymru
Mae gweithwyr cadwraeth arbenigol wedi bod yn gweithio ar uchder sy’n ddigon i droi’r stumog i amddiffyn rhostir bregus uwchben arfordir yng Ngogledd Cymru. Yn hongian ar rhaffau dros ddisgyniad o 90 metr, fe wnaethant drin rhododendron ymledol sy'n tyfu ar glogwyn yn uchel uwchben y môr.
Cynlluniodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gwaith ym Mynydd Tir y Cwmwd ym Mhen Llŷn ar ôl dod o hyd i'r planhigion ymledol yn lledaenu ar draws rhannau o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gan gynnwys wyneb clogwyn a thir serth na ellid ei gyrraedd yn ddiogel fel arall. Mae trin a chael gwared ar y rhododendron yn hanfodol i ddiogelu'r cynefin rhostir y mae'r rhan hon o'r pentir wedi'i ddynodi ar ei gyfer.
Er fod rhododendron yn gyffredin mewn gerddi, mae’n gallu lledaenu’n gyflym yn y gwyllt gan fygu cynefin a phlanhigion brodorol o dan ei ganopi trwchus. Ar y pentir roedd wedi dechrau blocio golau, tagu'r haen ddaear a gwanhau'r rhostir sy'n diffinio'r safle.
Defnyddiodd CNC gontractwyr arbenigol i wneud y gwaith rhaffau. Ar dir haws, roedd gweithwyr yn trin y planhigion ymledol gyda chwynladdwr, neu ddadwreiddio'r rhai llai â llaw. Aeth y tîm rhaffau i'r afael â'r gweddill, gan gario offer a gweithio ar rannau agored o'r clogwyn.
Ariannwyd y prosiect gan Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi ymdrechion i adfer cynefinoedd a chryfhau bioamrywiaeth ledled Cymru.
Dywedodd Arfon Hughes, Arweinydd Tîm Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae rhododendron yn fygythiad difrifol i rai o gynefinoedd brodorol Cymru, ac yn Nhir y Cwmwd roedd yn tyfu mewn mannau a oedd yn anodd iawn eu cyrraedd. Roedd y gwaith rhaffau hwn yn caniatáu inni gael gwared ar blanhigion a fyddai wedi parhau i ledaenu ar draws y clogwyni a niweidio'r ecosystem. Mae'n dangos yr eithaf yr awn ni i er mwyn gwarchod ac adfer natur."
Mae'r gwaith yn gam pwysig wrth adfer cynefin rhostir sych arfordirol ym Mynydd Tir y Cwmwd.