Arbenigwyr yn ymgynnull ar gyfer cynhadledd twyni tywod

Mae arbenigwyr cadwraeth wedi bod yn dysgu ac yn rhannu gwybodaeth am un o gynefinoedd pwysicaf Cymru.

Daeth dros 100 o gynrychiolwyr ynghyd wyneb yn wyneb ac ar-lein i glywed gan arbenigwyr lleol a rhyngwladol am warchod a rheoli twyni tywod yng nghynhadledd Twyni Byw, a gynhaliwyd dros dridiau yng Ngwesty’r Celtic Royal yng Nghaernarfon.

Mae prosiect Twyni Byw, a ariennir gan yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wedi bod yn gweithio i adfer twyni tywod ledled Cymru, gan ail-greu symudiad naturiol mewn twyni ac adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o fywyd gwyllt mwyaf prin y wlad.

Mae gwaith wedi bod yn cael ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf ar safleoedd yn cynnwys Tywyn Aberffraw, Niwbwrch, Morfa Harlech, Twyni Pen-bre a Chwitffordd, Cynffig a Merthyr Mawr.

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw ar gyfer CNC:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynnal y gynhadledd hon, clywed gan arbenigwyr a rhannu arfer gorau o bob rhan o’r DU ac Ewrop.

“Mae twyni tywod yn dirweddau unigryw, sy’n pontio’r tir a’r môr, ac yn rhai o’r lleoliadau gorau ar gyfer bywyd gwyllt yng Nghymru. Maent yn llawn bioamrywiaeth, ac yn lleoedd gwych i ymlacio ac ailgysylltu â natur.

“Maen nhw wedi’u nodi fel y cynefin sydd fwyaf mewn perygl yn Ewrop, ac maent yn cynnal mwy na 70 o rywogaethau prin ar raddfa genedlaethol neu yn y Llyfr Data Coch, felly mae dysgu sut i’w diogelu a’u hadfer yn hanfodol er mwyn helpu i fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.”

Yn ogystal â chyflwyniadau a thrafodaethau yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd rhwng Mai 15 a 17, cynhaliwyd ymweliad safle yng Nghwningar a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn lle mae nifer o brosiectau wedi cael eu cyflawni.

Mae tua 30 y cant o arwynebedd twyni tywod gwreiddiol Cymru wedi’i golli i ddatblygiad ac erydiad ers 1900, ac mae’r rhan fwyaf o’r gweddill wedi’i or-sefydlogi gan lystyfiant dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gan arwain at golled sylweddol o ran bioamrywiaeth.

Dim ond 8,000ha o dwyni tywod sydd ar ôl – 0.3 y cant o dir Cymru. Ni ellir ail-greu twyni ac mae eu ffurf a'u cynefinoedd yn hynod arbenigol, fodd bynnag, gall camau cadwraeth gweithredol wneud gwahaniaeth mawr i fywyd gwyllt twyni sydd dan fygythiad.

Cafodd gwaith Twyni Byw ym Morfa Harlech ei gynnwys yn ddiweddar ar bennod o Great Coastal Railway Journeys gyda Michael Portillo. Gallwch wylio'r bennod ar BBC iPlayer