Swyddogion gorfodi yn taclo pysgota anghyfreithlon yng Ngwent

Mae pysgotwyr yn ne-ddwyrain Cymru yn cael eu hatgoffa i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at is-ddeddfau pysgota ar ôl i ddau ddyn o ardal Gwent gael dirwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am bysgota heb drwydded gwialen ddilys.

Roedd swyddogion gorfodi o CNC yn cynnal patrolau ar wahân ar hyd rhannau o afon Wysg ac afon Gwy ar 13 Gorffennaf, pan welsant Christian Byrne o’r Fenni a Jay Matthews o Gwmbrân yn paratoi i bysgota.

Pan gafodd ei holi gan swyddogion, cadarnhaodd Mr Byrne fod ganddo Drwydded Gwialen gyfredol ond ar ôl gwirio canfuwyd nad oedd hynny’n wir.

Cadarnhaodd Mr Matthews nad oedd ganddo drwydded bysgota ddilys.

Cynhaliwyd y gwrandawiadau ar 15 Tachwedd.

Cafwyd Mr Byrne yn euog o ddefnyddio offeryn pysgota didrwydded a chafodd ddirwy o £220, gorchmynnwyd iddo dalu cost o £127.30 a gordal dioddefwr o £88, a ddaeth â chyfanswm y gost i £435.30.

Cafwyd Mr Matthews yn euog o ddefnyddio offeryn pysgota didrwydded a chafodd ddirwy o £40, gorchmynnwyd iddo dalu cost o £127.30 a gordal dioddefwr o £16, a ddaeth â chyfanswm y gost i £183.30.

Dywedodd Chris Burge, Swyddog Rheoleiddio Gwastraff CNC:

Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy’n bygwth stociau pysgod Cymru o ddifri ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
Rydym yn annog pysgotwyr i wneud defnydd o’n cefn gwlad hardd yng Nghymru, ond i wneud hynny’n gyfrifol ac i sicrhau bod ganddynt drwyddedau i bysgota, er mwyn osgoi cael eu herlyn.
Cofiwch fod rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gellid cymryd eich offer pysgota os ydych yn pysgota ac yn methu â dangos trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen.

Gall unrhyw un sy’n gweld neu’n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon ei riportio i linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Gellir prynu trwyddedau gwialen ar-lein yn:

https://cyfoethnaturiol.cymru/permits-and-permissions/buy-a-fishing-rod-licence/?lang=cy