Camau gorfodi yn atal perygl llifogydd uwch ym Metws Cedewain

Banc yr afon yn dangos siap naturiol ar ôl gorfodaeth

Mae cynnydd mewn perygl llifogydd ym Metws Cedewain, pentref i'r gogledd o'r Drenewydd, wedi'i osgoi'n ar ôl i gamau gorfodi gael eu cymryd yn erbyn gwaith adeiladu ar lan yr afon a oedd heb gael trwydded.

Roedd perchnogion eiddo ym Metws Cedewain wedi dechrau gwaith i ymestyn eu gardd trwy adeiladu wal ar hyd Nant Bechan, sy'n ffinio â'u heiddo. Roedd y strwythur arfaethedig yn golygu adeiladu i fewn i sianel yr afon. Gallai hyn fod wedi dadleoli dŵr yn ystod llifogydd a chyfnodau o lif uchel yr afon, gan gynyddu'r perygl o lifogydd ar gyfer eiddo cyfagos.

Ar ôl i'r gwaith heb drwydded gael ei adrodd i CNC, gweithredodd swyddogion yn gyflym gan gyhoeddi hysbysiad i stopio’r gwaith ar unwaith. Roedd y camau gorfodi hyn yn hanfodol, gan fod gan yr ardal hanes o lifogydd. Cafodd ymchwiliad ei lansio, a gwelwyd bod y gwaith adeiladu yn peri perygl difrifol o waethygu amodau llifogydd yn yr ardal.

Yn dilyn yr ymchwiliad, gorchmynnodd CNC i  gael gwared ar haen o flociau a oedd eisoes wedi'u gosod, datgymalu elfennau peirianneg galed, ac adfer glan yr afon i'w lethr gwreiddiol. Cydymffurfiodd y perchnogion â'r gofynion hyn, gan osgoi camau gorfodi pellach.

Roedd amseriad gweithredu CNC yn hollbwysig. Ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei atal a bod y gwaith adfer yn cael ei wneud, fe brofodd yr ardal lifogydd. Yn ffodus, doedd dim llifogydd cynyddol i lawr yr afon. Pe bai'r dyluniad gwreiddiol wedi'i adeiladu, gallai fod wedi gwaethygu amodau llifogydd i eraill yn y pentref.

Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau CNC, Rheoli Llifogydd a Dŵr:
"Mae hon yn enghraifft glir o sut mae gan adeiladu heb drwydded ar lannau afonydd y potensial i gynyddu'r perygl o lifogydd i bobl eraill yn y gymuned. Yn yr achos hwn, fe wnaeth ein camau gorfodi cyflym atal cynnydd mewn perygl.
"Rydym yn annog pob perchennog eiddo ar lan yr afon i sicrhau bod ganddynt y caniatâd cywir cyn dechrau unrhyw waith adeiladu ar gwrs dŵr neu'n agos ato. Mae gwneud hynny yn sicrhau bod gennych y cyngor cywir wrth gynllunio'r gwaith, a sicrhau nad ydych yn torri'r gyfraith."

Mae angen Trwydded Gweithgaredd Perygl Llifogydd ar unrhyw waith ger afon sy'n effeithio ar lif dŵr. Os yw'r afon yn cael ei dosbarthu fel 'prif afon', rhaid cael y drwydded gan CNC. Ar gyfer cyrsiau dŵr eraill, yr Awdurdod Llifogydd Lleol perthnasol sy’n ymdrin â thrwyddedau. Mae cael y caniatâd hwn yn hanfodol, gan ei fod yn sicrhau y gall awdurdodau ddarparu arweiniad ar ba waith sy'n ddiogel ac yn dderbyniol er mwyn osgoi cynyddu peryglon llifogydd.

Yn yr achos hwn, fe wnaeth perchnogion yr eiddo ysgwyddo costau ychwanegol wrth gael gwared ar y gwaith a oedd eisoes wedi'i gwblhau, a’r costau o addasu eu cynllun gwreiddiol.

I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau perygl llifogydd a chanllawiau ar adeiladu glan afonydd, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru neu'r Awdurdod Llifogydd Lleol.