Sesiwn galw heibio ar waith amddiffyn rhag llifogydd ym Mhwllheli

Mae sesiwn galw heibio cyhoeddus yn cael ei chynnal i roi diweddariad ar opsiynau i reoli perygl llifogydd hirdymor i Bwllheli a’r cymunedau cyfagos yn fwy effeithiol.

Rhagwelir y bydd perygl llifogydd o afonydd a’r môr yn cynyddu yn y dyfodol, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi asesu opsiynau rhestr hir ac wedi datblygu rhestr fer o opsiynau rheoli perygl llifogydd i’w datblygu.

Bydd staff yn cyflwyno’r rhestr hir a rhestr fer arfaethedig o opsiynau mewn digwyddiad ym Mhwllheli ar 10 Tachwedd ac mae’r wybodaeth hefyd ar gael ar-lein.

Meddai Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Cymru CNC ar gyfer Perygl Llifogydd a Dŵr:

“Rydym yn awyddus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r cyhoedd am faterion yn ymwneud â’r perygl llifogydd hirdymor i’r gymuned a sut y gall y prosiect hwn helpu i reoli’r risgiau hyn.
Wrth i'r hinsawdd newid, byddwn yn wynebu stormydd amlach a glaw trwm, yn ogystal â chynnydd yn lefelau'r môr. Bydd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar yr amddiffynfeydd rhag llifogydd ac fe allai effeithio ar sut maen nhw'n perfformio.
“Rhaid i ni i gyd addasu ein ffordd o fyw a gweithio wrth i’r argyfwng hinsawdd esblygu – i ddysgu byw gydag amrywiadau mewn tymheredd a mwy o ddŵr a chefnogi ein cymunedau i fod yn wyliadwrus ac yn fwy gwydn i ddigwyddiadau tywydd eithafol amlach.
“Ar y cam hwn o’r prosiect rydym yn rhannu’r rhestr hir a’r rhestr fer o opsiynau arfaethedig a bydd yr adborth a gawn gan y cyhoedd yn helpu i lunio ein dewisiadau wrth i ni symud ymlaen.
“Rydym am gydweithio i ddod o hyd i atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Bwllheli a’r cymunedau cyfagos ac rydym yn annog aelodau o’r gymuned i fynychu’r sesiynau galw heibio a mynd ar-lein i ddarganfod mwy am y gwaith hwn.”

Mae’r prosiect hwn yn rhan o Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddarganfod mwy am y prosiect, y rhestr hir a’r rhestr fer arfaethedig o opsiynau a rhoi adborth mewn sesiwn galw heibio ar 10 Tachwedd, 2023, rhwng 10am ac 8pm ym Mhlas Heli, Stad Ddiwydiannol Glan Y Don, Yr Hafan, Pwllheli, LL53 5YT. Nid oes angen apwyntiad.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chwblhau arolwg ar-lein yn Rheoli llifogydd ym Mhwllheli - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Pic by DronePics.Wales