Sesiwn galw heibio ar gyfer Cynllun Adnoddau Coedwig Harlech

Rydym yn gofyn am farn aelodau’r cyhoedd ar reoli coedwig yng Ngwynedd yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Gynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Coedwig Harlech ac mae'n gofyn i aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid am eu barn.

Bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwaith CNC o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi amcanion hirdymor, gan gynnwys cadwraeth a sut mae pobl yn defnyddio'r goedwig.

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 15 Ionawr ac yn dod i ben ar 12 Chwefror a gallwch gael mwy o wybodaeth a rhoi sylwadau ar y cynllun ar-lein.

Mae hyn yn cael ei wneud fel rhan o broses ardystio Cynllun Sicrwydd Coetir y Deyrnas Unedig i sicrhau bod safbwyntiau ynghylch rheoli ac amcanion yn y dyfodol yn cael eu hystyried.

Cynhelir sesiwn galw heibio gyhoeddus gyda'n staff ar ddydd Iau, 1 Chwefror rhwng 3pm a 7pm yn 'Hwb Harlech' yn Hen Lyfrgell ac Institiwt Harlech, Stryd Fawr, Harlech, LL46 2YB. Nid oes angen apwyntiad, a gall aelodau o'r cyhoedd siarad â ni am faterion eraill sy'n gysylltiedig â CNC yn ystod y sesiwn.

Meddai Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

“Rydym yn gweithio i sicrhau bod y goedwig yn cael ei rheoli’n gynaliadwy drwy’r cynllun hwn ac rydym yn awyddus i weld cymaint o bobl ag sydd bosibl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

"Rydym eisiau clywed gan aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid am eu barn ar ein cynlluniau, a fydd yn cwmpasu cyfnod o ddeng mlynedd.

"Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn cydbwyso anghenion y bobl sy'n defnyddio'r goedwig a'i chadwraeth ac ar yr un pryd yn darparu pren cynaliadwy.

"Mae pawb yn elwa o goedwig sy'n cael ei rheoli'n dda. Mae'n darparu mannau gwyrdd y gall pobl eu mwynhau mewn ffordd gyfrifol, atafaelu carbon a bioamrywiaeth leol."

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i gael dweud eich dweud chwiliwch am Gynllun Adnoddau Coedwig Harlech ar-lein, ewch i Citizen Space – Cyfoeth Naturiol Cymru neu e-bostiwch FRP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk