Annog perchnogion cŵn i gadw anifeiliaid anwes ar dennyn er mwyn diogelu adar wrth i'r tymor nythu ddechrau

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac RSPB Cymru yn annog perchnogion cŵn i chwarae eu rhan i ddiogelu adar sy’n nythu ar y ddaear y gwanwyn hwn drwy gadw anifeiliaid anwes ar dennyn yn ystod y tymor nythu.
Mae corff amgylcheddol Cymru wedi ymuno â’r elusen cadwraeth adar i alw ar berchnogion cŵn i helpu i ddiogelu rhywogaethau fel gylfinirod, ehedyddion, troellwyr mawr a phiod môr yn ystod y cyfnod nythu hollbwysig hwn, sy’n rhedeg o fis Mawrth i fis Awst.
Mae adar o’r fath yn agored i aflonyddwch gan gŵn heb oruchwyliaeth yr adeg hon o’r flwyddyn, a gall hyn achosi iddynt adael eu nythod oherwydd ofn - gan adael wyau a chywion heb eu diogelu ac mewn perygl o farw os cânt eu gadael am gyfnod rhy hir ar eu pen eu hunain.
Er bydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am nythod adar fel pethau sy’n uchel mewn coed, mae nifer syfrdanol yn gwneud eu nythod bregus ar y ddaear, neu ychydig yn uwch - wedi’u cuddio ar draethau, mewn glaswelltir hir, ar waelod coed, neu mewn llwyni isel. Wedi'u cuddio gan eu hamgylchedd, gall y nythod fod yn anodd iawn eu gweld ac mae’n hawdd iddynt gael eu sathru'n ddamweiniol neu eu niweidio gan gŵn – mae’r risg o amharu arnynt yn uchel.
Mae nifer yr adar sy’n nythu yng nghefn gwlad Prydain yn parhau i ostwng, gydag astudiaeth gan yr RSPB, Birdlife International a Chymdeithas Adareg y Weriniaeth Tsiec yn datgelu cwymp o 600 miliwn o adar magu yn y DU a’r UE ers 1980. Gall tarfu o'r fath gael effeithiau hirhoedlog ar boblogaethau adar, gan effeithio'n sylweddol ar lwyddiant nythu a chyfraddau goroesi.
Mae CNC ac RSPB Cymru yn rhybuddio y gall hyd yn oed cŵn sy’n ymddwyn yn dda achosi trallod neu ddifrod i fywyd gwyllt yn anfwriadol. Maen nhw’n gofyn i berchnogion gadw cŵn dan reolaeth dynn neu ar dennyn, ac ar lwybrau cerdded sydd wedi’u marcio, yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf er mwyn helpu i warchod rhywogaethau adar sy’n agored i niwed. Cynghorir perchnogion hefyd i ddilyn cyfarwyddiadau arwyddion lleol, gan fod rhai mannau lle mae'n rhaid cadw cŵn ar dennyn, a hynny drwy’r flwyddyn gyfan neu am o leiaf rhan o'r flwyddyn.
Dywedodd Alison Roberts, Cynghorydd Arbenigol ar gyfer Hamdden Cyfrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Wrth i’r gwanwyn gyrraedd, bydd llawer yn crwydro cefn gwlad Cymru gyda’u cŵn, ond mae’n bwysig dilyn y Cod Cefn Gwlad a bod yn ymwybodol o fywyd gwyllt. Bydd adar prin a rhai sydd dan fygythiad yn dechrau nythu ledled y wlad mewn mannau agored fel glaswelltiroedd, rhostiroedd, gweundiroedd, rhanbarthau arfordirol, gwlyptiroedd a thir fferm, gan gynnwys sawl rhywogaeth fudol a fydd wedi teithio miloedd o filltiroedd i nythu yn y DU.
“Mae adar sy’n nythu ar y ddaear yn agored iawn i niwed yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhai bellach mewn perygl oherwydd colli cynefinoedd, oherwydd ysglyfaethwyr ac oherwydd aflonyddwch dynol - gan gynnwys mynd â chŵn am dro. Rydym yn galw ar berchnogion cŵn i wneud eu rhan i helpu diogelu’r adar hyn, sy’n cael eu gwarchod yn gyfreithiol, trwy gadw eu cŵn o dan reolaeth dynn – yn ddelfrydol ar dennyn – yn ystod y tymor nythu adar.
“Cadwch eich ci yn y golwg bob amser a gadewch ef oddi ar ei dennyn dim ond os yw'r gyfraith yn caniatáu hynny ac os gallwch fod yn hyderus y bydd eich ci yn dychwelyd ar orchymyn. Bydd cymryd y camau hyn yn sicrhau y gall adar fagu eu cywion heb inni darfu arnynt, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau harddwch naturiol Cymru.”
Mae pob aderyn gwyllt, a’u nythod a’u hwyau, wedi’u diogelu’n gyfreithiol yng Nghymru o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n ei gwneud yn drosedd lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol, yn ogystal â chymryd neu ddinistrio unrhyw un o’u nythod wrth iddynt eu defnyddio neu wrth iddynt eu hadeiladu.
Mae’n bosibl na fydd perchnogion cŵn yn gwybod, er mwyn diogelu adar sy’n nythu ar y ddaear, ei bod hefyd yn ofyniad cyfreithiol i gadw cŵn ar dennyn heb fod yn hwy na dau fetr pan ar dir mynediad agored rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf. Mae pobl mewn perygl o gael dirwyon o hyd at £1,000 os na fyddant yn gwneud hynny.
Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru: “Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn angerddol am natur ac eisiau osgoi ei niweidio. Ond gall hyd yn oed cŵn sy’n ymddwyn yn dda achosi trallod i fywyd gwyllt yn anfwriadol a gallant gael effaith sylweddol ar lwyddiant nythu rhai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig.
“Mae rhai o adar magu Cymru sydd yn y perygl mwyaf yn nythu ar y ddaear, sy’n golygu eu bod yn agored iawn i aflonyddwch. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb fod yn ymwybodol pan maen nhw allan, a chadw cŵn ar dennyn yn ystod tymor y gwanwyn a haf hwn.”
Gall bron pob cynefin ar draws cefn gwlad Cymru fod yn gartref i adar sy’n nythu ar y ddaear. Mae gwlyptiroedd ac aberoedd yn hanfodol i adar hirgoes fel y cornicyll neu'r pibydd coesgoch. Mae ardaloedd arfordirol yn gartref i adar sy'n nythu ar y traeth, fel y bioden fôr neu'r cwtiad torchog. Mae rhostiroedd yn gartref i’r troellwr a’r cyffylog ac mae tiroedd fferm yn gartref i’r gylfinir a’r ehedydd. Mae’n bwysig cadw llygad am unrhyw arwyddion am adar sy’n nythu, cadw cŵn yn agos ac ar dennyn, a symud yn ôl os byddwch yn clywed galwadau rhybudd adar sy’n magu.
Ychwanegodd Alison: “Rydym hefyd am atgoffa perchnogion i lanhau baw eu cŵn pan fyddant allan yn cerdded a chael gwared arno’n iawn drwy ddefnyddio biniau cyhoeddus neu drwy fynd ag ef adref. Mae’r ysgarthion yn gadael maethynnau digroeso yn y pridd ac yn peri risgiau iechyd i bobl ac anifeiliaid, gan gynnwys da byw, ledled Cymru.
“Trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad, gall pawb fod yn sicr eu bod yn treulio amser ym myd natur yn gyfrifol ac yn barchus, gan warchod yr amgylchedd a’n hadar sy’n nythu ar y ddaear am flynyddoedd i ddod.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru/cod-cefn-gwlad