Coed llarwydd heintiedig i gael eu cwympo yng Nghoedwig Gwydir

Gwydir forest

Bydd gwaith cwympo coed yn dechrau ym Mhenmachno, yng Nghoedwig Gwydir, ar ddydd Mawrth, 29 Awst, a hynny am gyfnod o dair wythnos.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud y gwaith yn unol â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol ar ôl i nifer o goed llarwydd gael eu heintio â Phytophthora ramorum, sef clefyd y llarwydd.

Bydd y gwaith cwympo yn digwydd ar 3.5 hectar i gyd mewn ardal o amgylch Penmachno, ym Mharc Coedwig Gwydir, ac am resymau diogelwch, bydd angen cau rhannau o'r llwybr beicio mynydd, o faes parcio beicio mynydd Penmachno drwy gydol y gwaith.

Meddai Kath McNulty, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwig CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru:

Er mwyn cydymffurfio â'r hysbysiad, bydd angen cael gwared o’r coed er mwyn atal clefyd y llarwydd rhag lledaenu ymhellach.
Oherwydd lleoliad y safle, ac er mwyn gwneud y gwaith mae angen rheoli mynediad er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Yn anffodus, mae hyn yn golygu ein bod yn cau rhan o'r llwybr beicio mynydd ac yn dargyfeirio llwybrau i'n ffordd goedwig er diogelwch y cyhoedd yn ystod y gweithrediadau.
Bydd cyfyngiadau cludo a chwympo ar waith sy'n golygu na fydd coed yn cael eu cwympo a’u symud ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau cyhoeddus a byddwn yn gweithio i leihau'r effaith ar y gymuned leol lle bynnag y bo modd, ond ein blaenoriaeth yw cadw pawb yn ddiogel.
Hoffem ddiolch ymlaen llaw i'r cyhoedd am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth.

Bydd mynedfeydd i breswylwyr yn parhau i fod ar agor bob amser ond efallai y bydd rhywfaint o oedi tra bydd lorïau yn codi’r pren.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwigaeth Gogledd Orllewin Cymru ar 0300 065 3000 neu e-bostiwch

GweithrediadauCoedwigoeddGogleddOrllewin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dysgu mwy am ein dulliau o fynd i’r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn