Diflaniad llif Afon Lliedi wedi ei greu gan bibell wedi ei ddifrodi
Credir bellach mai pibell garthffosiaeth wedi'i difrodi oedd wedi atal llif Afon Lliedi yn ardal Llanerch, Llanelli ar 16 Awst.
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod ar y safle yn barhaus mewn patrwm shifftiau yn monitro'r argae a'r pympiau yr oeddent wedi'u gosod i bwmpio dŵr o amgylch y twll ac yn ôl i sianel yr afon i lawr yr afon.
Daeth swyddogion yr Awdurdod Glo i'r digwyddiad yn gynnar ar fore Mawrth (17 Awst) a chanfu mai nid llyncdwll oedd y twll fel yr amheuwyd yn flaenorol.
Ar ôl derbyn cadarnhad bod y safle'n sefydlog, ymchwiliodd swyddogion CNC a chanfod mai pibell wedi'i difrodi ar waelod y twll a oedd yn cymryd llif y dŵr. Ar ôl gweithio gyda chydweithwyr yn Dŵr Cymru, cadarnhawyd mai pibell carthffosiaeth yw'r bibell.
Dywedodd Ioan Williams, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC ar gyfer De Orllewin Cymru: "Trwy bwmpio llif yr afon i lawr yr afon a thu hwnt i'r twll, mae ein swyddogion ar y safle wedi gallu adfer lefel dda o lif i'r Lliedi. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu gwaith cyflym ac effeithiol.
“Byddwn yn cynnal asesiad o'r afon i weld a oes rhagor o bysgod wedi marw oherwydd diffyg llif y dŵr. Gwyddom fod tua 50 o bysgod wedi marw cyn i ni osod yr argae a'r offer pwmpio, a disgwyliwn fod ein gweithredoedd wedi cyfyngu ar ddifrod pellach i bysgod a bywyd dyfrol arall yn y Lliedi.
"Er ei fod yn anarferol, gallai pibell fel hon gael gwared ar fwyafrif helaeth o lif yr afon pan fo'r afon mewn llif isel fel yr oedd y Lliedi. Unwaith y bydd y gwaith atgyweirio wedi'i wneud, byddwn yn monitro lefelau dŵr yn yr afon.”
Mae trafodaethau'n mynd rhagddo rhwng CNC, Dŵr Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ar y ffordd orau o atgyweirio a diogelu'r bibell sydd wedi'i difrodi ac ar ba bryd y gellir ailagor y bont. Ar ôl ei drwsio, bydd yr argae a'r offer pwmpio yn cael eu datgymalu. Bydd hyn yn caniatáu i lif naturiol yr afon ailddechrau.
Disgwylir i'r pympiau a'r goleuadau fod yn weithredol dros nos tra bo'r gwaith atgyweirio yn setlo a bydd yn cael eu symud ddydd Mercher 18 Awst.