Oedi gwaith adfer Coedwig Cwm Carn ar gyfer tymor nythu adar
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi oedi rhywfaint o waith clirio yn dilyn gweithrediadau coedwigaeth diweddar yng Nghoedwig Cwm Carn er mwyn osgoi tarfu ar adar sy'n nythu.
Mae Cwm Carn yn un o'r safleoedd hamdden awyr agored mwyaf poblogaidd yn Ne-ddwyrain Cymru, gan ddenu cerddwyr, beicwyr a beicwyr mynydd i'w rwydwaith helaeth o lwybrau coedwig a beicio mynydd.
Mae hefyd yn gartref i amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt. Wrth i'r tymor nythu ddechrau (mis Mawrth tan fis Awst), mae llawer o rywogaethau adar bellach yn nythu yn y goedwig — gan gynnwys y Gwalch Marth, un o adar coetir mwyaf eiconig Cymru.
Er mwyn osgoi tarfu ar nythod, mae CNC wedi oedi rhywfaint o waith adfer a chlirio yn dilyn gweithrediadau coedwigaeth diweddar. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd sy'n agos at ffyrdd a llwybrau'r goedwig, lle gallai ymwelwyr sylwi ar rannau sy'n edrych yn anorffenedig neu yn y broses o gael eu hadfer.
Dywedodd James Hepburn, Arweinydd y Tîm Gweithrediadau Coedwig:
“Mae’r seibiannau tymor byr hyn yn rhan arferol a phwysig o sut rydym yn rheoli’r goedwig i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei wneud yn gyfrifol ac mewn cydbwysedd â natur.
“Byddwn yn parhau â’r gwaith adfer sy’n weddill yn ddiweddarach yn y flwyddyn, unwaith y gellir ei wneud heb effeithio ar rywogaethau gwarchodedig Cwm Carn na’u cynefinoedd.
“Hoffem ddiolch i ymwelwyr am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod y saib tymhorol hanfodol hwn ar waith.”
Roedd y gwaith coedwigaeth diweddar yn cynnwys teneuo, lle mae coed dethol yn cael eu tynnu'n ofalus i roi mwy o le, golau a maethynnau i'r coed sy'n weddill dyfu.
Mae hyn yn creu coetir iachach a mwy gwydn ac yn gwella bioamrywiaeth drwy ganiatáu i fwy o olau haul gyrraedd llawr y goedwig. Mae hefyd yn helpu i gynnal amgylchedd diogel a hygyrch i ymwelwyr a defnyddwyr llwybrau.
Rhagor o wybodaeth am Goedwig Cwm Carn.