Gwaith Cadwraeth ym Mharc Linden yn Helpu Planhigion Prin

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynnal gwaith pwysig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Parc Linden i warchod un o gynefinoedd prinnaf Cymru.

Cynhaliwyd y gwaith ym mis Medi 2025 ac mae’n rhan o gynllun hirdymor i reoli prysgwydd ac i gadw glaswelltir calchaidd iseldirol y safle mewn cyflwr da. Ariannwyd y prosiect gan y Cronfeydd Bioamrywiaeth ar gyfer Cydnerthedd Ecosystemau (BERF).

Roedd prysgwydd fel y ddraenen wen a’r ddraenen ddu yn dechrau ymledu ar draws y glaswelltir. Torrwyd y rhain yn ôl, a llosgwyd y toriadau ar fwrdd wedi’i godi er mwyn atal maethynnau o’r lludw rhag cyfoethogi’r pridd. Mae hyn yn bwysig am fod angen amodau ble mae diffyg maethynnau ar y glaswelltiroedd hyn i gynnal y planhigion arbennig sy’n tyfu yno.

Bydd y gwaith hwn yn helpu rhywogaethau fel tegeirian y broga ac edafeddog y mynydd (i'w weld yn y llun), nad ydynt yn tyfu’n dda mewn cysgod neu ble mae gormod o gystadleuaeth. Drwy glirio’r prysgwydd ac agor y glaswelltir, mae’r amodau bellach yn well i’r planhigion hyn dyfu ac atgynhyrchu. Bydd pori ysgafn – chwe cheffyl yn yr haf a thri yn y gaeaf – yn parhau i gadw amrywiaeth yn y glaswelltir ac yn atal glaswelltau cryfach rhag cymryd drosodd.

Mae Parc Linden yn gartref i sawl cynefin, gan gynnwys glaswelltir calchaidd, glaswelltir asidig, calchbalmant, rhedyn a phrysgwydd. Y glaswelltir calchaidd yw’r nodwedd bwysicaf. Heb waith rheoli cyson, byddai prysgwydd a rhedyn yn cymryd drosodd yn gyflym ac yn cysgodi’r planhigion cain sy’n gwneud y cynefin hwn mor werthfawr.

Dywedodd Elizabeth Felton, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint:

“Mae glaswelltir calchaidd yr iseldir yn gynefin prin sydd ar i lawr yng Nghymru. Drwy reoli prysgwydd a chadw’r pridd yn brin o faethynnau, rydym yn rhoi’r cyfle gorau i rywogaethau fel tegeirian y broga ac edafeddog y mynydd ffynnu. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer iechyd hirdymor y safle a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal.
“Mae’r prosiect hwn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i warchod a gwella cynefinoedd pwysicaf Cymru fel eu bod yn parhau i fod yn iach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”