Cwmni yn rhoi £150,000 i ymddiriedolaeth afonydd leol ar ôl llygru afon yng Nghaerdydd

Mae cwmni a oedd yn gyfrifol am lygru Nant Llanisien a Llyn Parc y Rhath yng Nghaerdydd wedi cytuno i roi £150,000 i elusen amgylcheddol leol, yn dilyn ymgymeriad gorfodi a sicrhawyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Bydd y taliad gan Erith Contractors Ltd i Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau sydd â’r nod o warchod ac adfer cynefinoedd afonydd ledled De Cymru.
Dechreuodd yr achos pan adroddodd aelod o'r cyhoedd am ddŵr llwyd ag arogl drwg yn Nant Llanisien i CNC ar 28 Medi 2023.
Ymchwiliodd swyddogion CNC yn gyflym ac olrhain ffynhonnell y llygredd i waith paratoi tir a oedd yn digwydd ar hen safle swyddfa dreth CThEM fel rhan o'r paratoadau i ddymchwel adeiladau uchel.
Roedd criw dymchwel wedi difrodi prif linell garthffosiaeth, gan achosi i garthffosiaeth amrwd ollwng i un o lednentydd Nant Llanisien, a lifodd yn y diwedd i Lyn Parc y Rhath.
Gan weithio'n agos gyda staff o Erith Contractors Ltd a Dŵr Cymru Welsh Water, sicrhaodd swyddogion CNC fod y garthffos a ddifrodwyd yn cael ei atgyweirio a bod y llygredd yn cael ei atal yn ddiweddarach yr un diwrnod.
Fel rhan o'r ymgymeriad gorfodi, derbyniodd Erith Contractors Ltd gyfrifoldeb llawn am y digwyddiad ac ymrwymodd i ariannu gwelliannau amgylcheddol lleol drwy Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru.
Dywedodd Martyn Davies, Swyddog yr Amgylchedd CNC:
"Mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor gyflym y gall damweiniau ar safleoedd adeiladu gael effaith amgylcheddol ddifrifol.
"Rydym yn falch bod Erith Contractors Ltd wedi cymryd cyfrifoldeb am y gollyngiad a chytuno i wneud cyfraniad sylweddol i gefnogi iechyd ein hafonydd lleol.
"Mae ymgymeriadau gorfodi fel hyn yn caniatáu inni sicrhau buddion amgylcheddol uniongyrchol i'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt."
Dywedodd Andy Schofield, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru:
"Er y byddai'n amlwg yn well gennym atal digwyddiadau llygredd yn y lle cyntaf, bydd Ymddiriedolaeth Afonydd De-ddwyrain Cymru yn sicrhau bod y rhodd ariannol hon yn cael ei defnyddio i gyflawni prosiectau sydd o fudd i fywyd gwyllt nentydd Caerdydd.
"Byddwn hefyd yn gweithio i godi mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein cyrsiau dŵr trefol a'r angen i'w diogelu er budd cymunedau lleol, nawr ac yn y dyfodol.
"Rydym yn ddiolchgar i staff CNC am eu cefnogaeth i fynd i'r afael â'r digwyddiad cychwynnol ac am hwyluso'r buddsoddiad hwn yn ein hamgylchedd lleol."
Yn dilyn y digwyddiad, mae CNC yn parhau i fonitro ac asesu'r nant a'r llyn am unrhyw effeithiau amgylcheddol hirdymor. Mae CNC hefyd wedi cynghori Erith Contractors Ltd i gymryd rhagofalon ychwanegol yn ystod gwaith yn y dyfodol er mwyn osgoi digwyddiadau tebyg.
Mae ymgymeriad gorfodi yn fath o sancsiwn sifil sydd ar gael i CNC o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Mae'n caniatáu i gwmnïau wneud iawn am droseddau amgylcheddol trwy gyfrannu at brosiectau sydd o fudd uniongyrchol i'r amgylchedd.
Dylid rhoi gwybod am achosion tybiedig o lygredd i CNC yn gyflym drwy ffonio ei linell ddigwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000 neu ar-lein ar dudalen rhoi gwybod am ddigwyddiad CNC.