Ymdrechion cydweithredol yn arwain gwaith adfer ar ôl Storm Darragh

Storm Darragh - coed wedi disgyn ar linell bwêr yng Nghoedwig Pen Arthur, de-orllewin Cymru

Mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau mynediad i goedwigoedd o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yr effeithiwyd arnynt gan Storm Darragh bellach wedi’u clirio, diolch i ymdrechion adfer a arweiniwyd gan reolwyr tir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’u partneriaid.

Yn sgil gwyntoedd dinistriol 90mya Storm Darragh ar 7 ac 8 Rhagfyr, mae timau rheoli tir CNC wedi gweithio’n ddiflino ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau ac aelodau’r cyhoedd i ddadflocio llwybrau mynediad hanfodol ar gyfer gwasanaethau brys ac eiddo preswyl o fewn yr ystad goetir.

Mae’r ymateb cydweithredol hwn wedi bod yn hanfodol wrth i CNC barhau i asesu maint y difrod i’w goedwigoedd a’i warchodfeydd natur ar hyd a lled Cymru. Mae asesiadau cynnar yn dangos effeithiau sylweddol, gydag ardaloedd eang o goed wedi eu cwympo a chilometrau lawer o ffyrdd coedwig, llwybrau cerdded, a llwybrau beicio mynydd wedi cael eu rhwystro gan falurion.

Meddai Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru, CNC:

“Mae ein hymdrechion cychwynnol ers Storm Darragh wedi canolbwyntio ar ailagor mynediad i ffyrdd coedwig a ddefnyddir gan drigolion a gwasanaethau brys.

“Mae’r ymateb wedi bod yn ymdrech tîm yng ngwir ystyr y gair. Rydym yn hynod ddiolchgar i’n cydweithwyr, contractwyr, awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau ac i aelodau’r cyhoedd am eu gwaith anhygoel i adfer mynediad.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl yn edrych ymlaen at fynd allan i’r awyr agored dros gyfnod y Nadolig. Ond wrth i ni barhau i asesu'r difrod i'r tir yn ein gofal a pharhau â'n gwaith i glirio llwybrau, rydym yn gofyn i bobl osgoi ymweld â'n coedwigoedd a'n gwarchodfeydd.

“Rydym am gael ein coetiroedd yn ôl i’w cyflwr arferol cyn gynted ag sydd bosibl, ond diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, ac mae’r perygl o goed neu ganghennau’n disgyn yn dal i fod yn sylweddol. Hefyd, bydd contractwyr yn trin peiriannau mawr mewn nifer o’n coedwigoedd fel rhan o’r gwaith clirio, a bydd hyn yn cynyddu mwy ar y risgiau i’r cyhoedd.”

Mae gwyntoedd cryfion dinistriol Storm Darragh wedi gadael ôl sylweddol ar Gymru, gan achosi difrod eang i goed, coetiroedd a choedwigoedd. Mae tirfeddianwyr preifat bellach yn wynebu heriau tebyg i’r rhai oedd yn wynebu CNC.

Mewn ymateb, mae CNC wedi rhyddhau canllawiau i gynorthwyo tirfeddianwyr preifat i fynd i’r afael â chanlyniad y storm. Mae'r arweiniad yn egluro pryd y caniateir cwympo coed sy'n tyfu o dan eithriadau yn y Ddeddf Coedwigaeth.

Mae eithriadau allweddol yn cynnwys achosion lle mae coed yn peri perygl uniongyrchol a gwirioneddol i ddiogelwch y cyhoedd, megis peryglon i lwybrau troed, ffyrdd, neu eiddo cyfagos. Yn ogystal, mae eithriadau’n berthnasol i goed sy’n cael eu cwympo gan, neu ar gais ymgymerwyr statudol, megis cwmnïau pŵer a dŵr, pan fydd coed wedi disgyn ar linellau pŵer neu’n rhwystro ffyrdd a thraciau sy’n angenrheidiol ar gyfer mynediad diogel i’r llinellau hyn.

Nod y canllawiau yw cynorthwyo tirfeddianwyr i lywio cymhlethdodau rheoli coed yn dilyn Storm Darragh.

Meddai Nick Fackrell, Uwch Swyddog, Rheoleiddio Coedwigoedd ac Iechyd Planhigion Coed, CNC:

“At ei gilydd, yng Nghymru o dan y Ddeddf Coedwigaeth, mae angen trwydded gwympo coed gan CNC er mwyn cwympo coed sy'n tyfu oni bai eu bod yn cael eu cynnwys gan eithriad o dan y Ddeddf.

“Os yw tirfeddiannwr yn hawlio eithriad rhag y gofyniad i geisio trwydded cwympo coed, er enghraifft, pan fo coed yn achosi perygl uniongyrchol, ei gyfrifoldeb ef yw cofnodi unrhyw dystiolaeth o sut mae'n berthnasol i'r gwaith cwympo mae’n bwriadu ei wneud.

“Rydym yn cynghori'n gryf ei fod yn tynnu nifer o luniau o unrhyw sefyllfa lle mae’n hawlio eithriad ac yn cofnodi penderfyniadau a wnaed yn ei asesiad risg a'i ddatganiad dull ar gyfer y dasg, ac yn cadw'r cofnodion hyn am o leiaf tair blynedd.

“Os nad yw tirfeddianwyr yn siŵr a oes eithriad yn bodoli, yna rydym yn cynghori'n gryf eu bod yn ymgynghori â gweithiwr coedwigaeth proffesiynol neu’n ceisio trwydded gwympo.”

Mae gwybodaeth am lwybrau wedi cau neu ddargyfeiriadau yng nghanolfannau ymwelwyr, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur CNC ar gael ar y dudalen Lleoedd i ymweld â hwy.

Gellir gweld y rhestr lawn o eithriadau yma Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch