Galw ar bobl ifanc i gymryd rhan mewn ymgyrch mes

Mae dysgwyr ledled Cymru yn cael cyfle i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau yr hydref hwn.

Cynhelir ymgyrch Miri Mes blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eto eleni rhwng 13 Medi a 25 Hydref, er mwyn casglu hadau i dyfu mwy o goed o fes sydd wedi’u casglu yn lleol. 

Mae cynyddu’r canopi coed ledled Cymru yn rhan hanfodol o ymdrechion i fynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ac i helpu i gyrraedd nodau carbon sero net y genedl.

Gofynnir i ddysgwyr o bob cwr o Gymru helpu i sicrhau fod gennym ddigon o goed derw brodorol lleol trwy gasglu mes yn eu hardal.

Ar ôl eu casglu, bydd yn bosibl gadael y mes mewn swyddfa CNC leol ac yna bydd lleoliadau addysg yn cael eu gwobrwyo â thaliad am eu hymdrechion, gan ddibynnu ar bwysau ac ansawdd y mes a gasglwyd ganddynt.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Mae hwn yn esgus ardderchog i gael pobl ifanc i fynd allan i'r awyr iach, i ddysgu am goed a choetiroedd a chodi arian yr un pryd.
"Mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth ers cael ei lansio yn 2017 gydag amrywiaeth o wahanol grwpiau wedi cymryd rhan, o ysgolion a meithrinfeydd i Brownis a grwpiau Ffermwyr Ifanc. 
"Rydym yn ddiolchgar i'r holl ysgolion a grwpiau addysg sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect hyd yma, ac rydym yn edrych ymlaen at yr ymgyrch eleni.
"Gan fod yr hinsawdd yn newid yn barhaus, mae coed derw Cymreig yn cael trafferth i oroesi yn erbyn plâu a chlefydau. Bydd gan goed sy’n cael eu tyfu o stoc o hadau lleol gyfradd twf uwch na choed sy’n cael eu tyfu a’u mewnforio o ardaloedd sy’n bellach i ffwrdd a hefyd byddant yn gallu gwrthsefyll clefydau yn well. 
"Mae cael grwpiau addysg o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn ein hymgyrch Miri Mes yn ein helpu i gynyddu a chryfhau pwll genynnau genetig ein coed derw Cymreig.
"Mae hyn yn rhan o'n gwaith ehangach i wyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac i ddatblygu gwytnwch ecosystemau fel y gall natur addasu a pharhau i ddarparu elfennau sylfaenol bywyd – aer glân, dŵr glân, bwyd a hinsawdd sefydlog."

Y llynedd, casglwyd dros 825kg o fes o 40 lleoliad ledled Cymru gan gynhyrchu £3,442 ar gyfer y lleoliadau addysg oedd wedi torchi’u llewys, croesawu bod allan yn yr awyr iach a chwilota’n ddyfal am fes ar lawr.

Ar ôl eu casglu bydd y mes yn cael eu cludo i feithrinfa goed er mwyn eu graddio, eu pwyso a’u plannu.

Pan fyddant wedi datblygu'n goed bach, byddant yn cael eu plannu o fewn yr ardal lle cawsant eu casglu fel mes. 

Nod CNC yw plannu mwy na 870,000 o goed llydanddail bob blwyddyn, bydd 300,000 o'r rhain yn goed derw Cymreig ac mae Miri Mes yn chwarae rhan fawr wrth ein helpu i gyflawni hyn.

Gallwch gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy fynd i Cyfoeth Naturiol Cymru / Miri Mes