Galw ar drigolion Cefneithin i fwrw golwg ar eu tanciau olew

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog unrhyw un sy’n byw yn ardal Cefneithin yn Sir Gaerfyrddin ac sydd â thanc olew domestig, i fwrw golwg arno fel mater o frys i weld a yw’n gollwng.

Mae Tîm Amgylchedd Sir Gaerfyrddin wedi derbyn sawl adroddiad o arogl tanwydd cryf yn dod o nant yn ardal Heol y Parc.

Mae swyddogion yr amgylchedd wedi gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd, ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo i’w leoli hyd yma. Mae swyddogion o’r farn ei fod o bosib yn dod o danc olew domestig.

Meddai James Slowgrove, Swyddog Amgylchedd CNC ar gyfer Sir Gaerfyrddin:

“Rydyn ni’n annog trigolion lleol i’n helpu i ddod o hyd i ffynhonnell y llygredd a bwrw golwg ar eu tanciau olew ar frys.

"Os yw lefel yr olew yn y tanc wedi gostwng yn annisgwyl, neu os ydych yn gweld arwyddion o olew wedi gollwng o amgylch y tanc, cysylltwch â Thîm Amgylchedd Sir Gaerfyrddin drwy ein llinell gymorth digwyddiadau ar unwaith drwy ffonio 0300 065 3000.

Po gyntaf y gallwn ddod o hyd i’r ffynhonnell, y cynharaf y gallwn stopio’r olew rhag gollwng.”

 Cymerwch gamau hefyd i atal mwy o olew rhag cyrraedd y cwrs dŵr gerllaw.

Mae swyddogion yr amgylchedd wedi ymweld â’r ardal i ymchwilio sawl gwaith ers y dyddiad hwnnw. Maen nhw wedi cymryd samplau dŵr ac wedi defnyddio bŵm i helpu i atal y llygredd rhag ymledu.

Bydd y tîm yn parhau i ymweld â’r safle yn rheolaidd i wneud gwiriadau ar y bŵm a gwahanol rannau o’r afon.