Prosiect rheoli rhedyn yn cefnogi glöyn byw prin yng ngogledd Cymru

Mae prosiect cadwraeth hirdymor i gefnogi un o ieir bach yr haf prinnaf Cymru yn parhau ym Mhwll Glas, Sir Ddinbych.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Gwarchod Gloÿnnod Byw yn cydweithio i reoli rhedyn er budd y fritheg berlog. Mae’r prosiect, sydd wedi’i leoli yng Ngwarchodfa Creigiau Eyarth, yn canolbwyntio ar reoli rhedyn yn ofalus i helpu i gynnal yr amodau cynefin delfrydol ar gyfer y rhywogaeth fregus hon.
Mae’r ymdrech gadwraeth hon, sydd wedi’i thargedu’n benodol ar gyfer y rhywogaeth, yn hanfodol, gan mai dim ond mewn llond llaw o leoliadau yng Nghymru y ceir y fritheg berlog. Mae diogelu ei chynefin hefyd yn rhan allweddol o gynnal statws yr ardaloedd hyn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).
Mae’r fritheg berlog yn dibynnu ar redyn i oroesi. Yn ystod yr haf, mae’r gloÿnnod byw llawndwf yn dodwy eu hwyau ymhlith y rhedyn, ac ar ôl i’r lindys ddeor, maent yn dibynnu ar ddail marw cynnes y rhedyn ar y ddaear i ddatblygu. Mae’r lindys yn bwydo ar fioledau sy’n dibynnu ar y cydbwysedd cywir o orchudd rhedyn i ffynnu. Heb ddulliau rheoli gweithredol, gallai ymlediad prysgwydd fygwth yr amodau hanfodol hyn.
Roedd y gwaith, a wnaed gan Gwarchod Gloÿnnod Byw gyda chyllid gan CNC, yn cynnwys torri rhedyn a thynnu prysgwydd rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2024 i gynnal cynefin agored a chynnes. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y fioledau a’r gloÿnnod byw yn gallu ffynnu.
Dywedodd Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd Sir Ddinbych yn CNC:
“Mae’r gwaith hwn yn enghraifft wych o waith partneriaeth hirdymor yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Mae’r fritheg berlog yn rhywogaeth brin a bregus, ac mae rheoli ei chynefin yn hanfodol i’w goroesiad. Drwy reoli rhedyn a phrysgwydd yn ofalus, rydym yn helpu i sicrhau bod gan y glöyn byw hwn yr amodau cywir o hyd i ffynnu yn Sir Ddinbych.”
Dywedodd Alan Sumnall, Pennaeth Cadwraeth yng Nghymru a Gogledd Iwerddon i Butterfly Conservation:
“Roedd y fritheg berlog gynt yn gyffredin ledled Cymru ond bellach mae’n un o’r gloÿnnod byw sy’n dirywio cyflymaf, ac mae dan fygythiad mawr ar hyd ei gynefin ym Mhrydain, gyda dirywiad o 88%. Mae prosiectau fel hyn, sydd wedi’u lleoli ar ein gwarchodfa natur, Creigiau Eyarth ym Mhwll Glas, yn hynod o bwysig ar gyfer rhywogaethau prin o loÿnnod byw, wedi’u seilio ar dystiolaeth gadarn o anghenion ecolegol y rhywogaeth, yn enwedig ar adeg pan fo dros hanner gloÿnnod byw'r DU yn dangos dirywiad tymor hir am y tro cyntaf.
“Ynghyd â’r gwaith rheoli rhedyn sy’n hanfodol i oroesiad llawer o’n rhywogaethau fritheg, rydym yn monitro’r canlyniadau i sicrhau’r dulliau rheoli gorau o ystyried effaith newid yn yr hinsawdd. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau cynefin delfrydol ar gyfer y fritheg berlog a rhywogaethau eraill sy’n gysylltiedig â rhedyn yng Nghymru.”