Hybu cynefin prin ar fynydd yn Sir y Fflint

Bydd cynefin prin ar Fynydd Helygain yn Sir y Fflint sydd ond yn bodoli o ganlyniad i hanes mwyngloddio cyfoethog yr ardal leol yn cael hwb mewn rownd newydd o waith cadwraeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dechrau gwaith i grafu’r llystyfiant ar yr wyneb, a bydd hynny’n helpu i ddatguddio’r pridd oddi tano. Y nod yw ailsefydlu’r cynefin prin sy’n gallu goddef metelau trwm.

Mae’r cynefin hwn yn gysylltiedig yn benodol â hen sborion mwyngloddio mewn ardaloedd a arferai gael eu defnyddio i fwyngloddio metelau trwm fel plwm a sinc. Mae’r cynefin yn cynnal rhywogaethau o blanhigion prin fel tywodlys y gwanwyn (Sabulina verna) yn ogystal â mwsoglau a chennau sy’n gallu goddef metelau trwm.

Bydd contractwyr yn crafu’r llystyfiant ar yr wyneb er mwyn creu cynefin tir moel hanfodol a chynyddu’r tebygolrwydd y caiff ei ailhadu’n naturiol o’r cynefin metelaidd cyfagos.

Bydd chwe ardal i’w chrafu i gyd; caiff yr arwyneb ei grafu ym mhump o’r ardaloedd hyn, ac mewn un defnyddir techneg ble caiff yr wyneb ei droi ben i lawr yn y gobaith o ddod â’r haenau o fwynau i’r top.

Yna bydd angen gwaith monitro blynyddol er mwyn gweld pa rywogaethau sy’n ailymddangos yn yr ardaloedd sydd wedi’u crafu. Bydd swyddogion CNC yn gweithio’n agos ar hyn gyda Grŵp Cadwraeth Natur Mynydd Helygain, sy’n gweithredu’n lleol ac a fydd yn helpu gyda’r gwaith monitro.

Yn ogystal, bydd hwn yn cael ei ystyried yn brosiect peilot, gyda’r canlyniadau’n helpu i lywio unrhyw ddulliau rheoli ar y cynefin prin hwn ar draws Cymru yn y dyfodol.

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Comin Helygain a Glaswelltiroedd Treffynnon ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Mynydd Helygain sy’n cynnal yr ardaloedd mwyaf o laswelltir sy’n gallu goddef metelau trwm yng Nghymru – sy’n cyfateb i 79% o gyfanswm y math hwn o laswelltir metelaidd yng Nghymru.

Meddai Elizabeth Felton, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC:

“Mae’r gwaith ar Fynydd Helygain yn bwysig iawn oherwydd gallai roi hwb i gyfran helaeth o un o’r unig gynefinoedd metelaidd sydd i’w cael yma yng Nghymru.
“Rydym yn gobeithio bod ein hymyriad yn un amserol o ystyried bod y cynefin prin hwn ar Fynydd Helygain dan fygythiad ar hyn o bryd am nifer o resymau, gan gynnwys pori annigonol sy’n achosi gormodedd o lystyfiant, a gweithgareddau pobl, er enghraifft beicio anghyfreithlon ar dir garw.
“Oherwydd natur y gwaith crafu, efallai y bydd golwg wedi’i ddifrodi ar y tir i ddechrau, a gallai hynny achosi pryder i rai. Fodd bynnag, mae’n werth pwysleisio y bydd angen blwyddyn o leiaf i’r gwaith ddwyn ffrwyth wrth i ni aros i weld pa rywogaethau sy’n ailgytrefu’r ardaloedd wedi’u crafu.”