Prosiect Adfer Cors LIFE ar y trywydd iawn yng Nghrymlyn.

Trac gorffenedig

Mae prosiect CNC i adfer safleoedd mawndir pwysig yng Nghymru wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol – gan adfer trac 1,400m o hyd a fydd yn rhoi mynediad i’r peiriannau trwm sydd eu hangen i wella cors unigryw iawn.

Bydd prosiect Corsydd Crynedig, a ariennir gan LIFE a Llywodraeth Cymru, a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gyflawnir mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn Sir Benfro ac Eryri o fudd i saith ardal cadwraeth arbennig gyda ffocws penodol ar Gors Crymlyn yn Abertawe.

Mae’r trac, a gostiodd ychydig o dan £200,000 ac sy’n cynnwys tua 6,500 tunnell o gerrig ar safle hen Burfa Olew Llandarcy, sef purfa fwyaf y DU yn ei chyfnod.

Mae’r ymyriadau niferus y bydd prosiect Corsydd Crynedig yn eu cyflawni yng Nghrymlyn yn cynnwys defnyddio cynaeafwr gwlyptir 'PistenBully' a fydd bellach yn gallu gyrru'n uniongyrchol ar wyneb y gors a chael gwared ar lystyfiant niweidiol ac ymledol sydd ar hyn o bryd yn atal y cynefin rhag gweithredu'n iach.

Mawndir – ymateb gwych i argyfyngau’r hinsawdd a natur oherwydd ei allu anhygoel i storio nwyon tŷ gwydr niweidiol – mae 4% o Gymru’n fawndir ac mae’n dal 30% o’n carbon sydd yn y tir. Ar hyn o bryd, mae 90% o fawndir Cymru mewn 'cyflwr anffafriol' a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad uchelgeisiol yn ddiweddar i dreblu ei thargedau adfer mawndiroedd.

Bydd Corsydd Crynedig hefyd yn gwella hydroleg safleoedd y prosiect er mwyn caniatáu i fwsoglau pwysig ffurfio mawn. Bydd cefnogi ffermwyr i alluogi pori cynaliadwy hefyd yn gwneud defnydd da o’r tir, yn rheoli planhigion problemus ac yn caniatáu i’r corsydd ffynnu.

Dywedodd arweinydd tîm y prosiect, Matthew Lowe:

Mae’n wych gallu dadorchuddio’r trac newydd yng Nghrymlyn. Mae’n garreg filltir gyffrous yn stori prosiect Corsydd Crynedig oherwydd gallwn bellach ddod â chontractwyr a pheiriannau i mewn i wneud gwahaniaeth parhaol i’r dirwedd werthfawr hon.

Dywedodd uwch swyddog prosiect Corsydd Crynedig, Gareth Thomas:

Rydym yn arbennig o ddiolchgar i randdeiliaid y prosiect, St Modwen Homes, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i'r darn hanfodol hwn o waith sy'n digwydd ar eu tir. Diolch enfawr hefyd i’n contractwyr ac aelodau o dîm peirianneg integredig CNC yn y De Orllewin sydd wedi bod yn allweddol ym mhob cam o’r gwaith adeiladu gwych hwn.

Dyma fideo byr yn dangos y trac a adeiladwyd (27) Trac yng Nghrymlyn / Crymlyn Track - YouTube