Dirwy i gwmni o’r Coed Duon am waredu gwastraff yn anghyfreithlon

Pentwr o wastraff adeiladu

Mae cwmni sgipiau wedi cael dirwy o £7,000 ac mae cyfarwyddwr y cwmni wedi cael dedfryd o garchar am 12 wythnos am waredu gwastraff yn anghyfreithlon ar Ystad Ddiwydiannol Barnhill ger y Coed Duon, yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Cafwyd Digaway Limited ac unig gyfarwyddwr y cwmni, Mr Daniel Jenkins, yn euog o waredu gwastraff a reolir heb drwydded amgylcheddol.

Ymwelodd swyddogion CNC â'r safle am y tro cyntaf yn dilyn adroddiadau am weithgarwch gwastraff anghyfreithlon ar 14 Rhagfyr 2021.

Ar ôl cyrraedd, daethant o hyd i sgipiau oedd yn llawn gwastraff cartref, pren a phlastig, pentwr mawr o bridd gwastraff, a gwastraff adeiladu a dymchwel. Rhoddwyd cyngor ac arweiniad i Mr Jenkins a dywedwyd wrtho i gael gwared ar y gwastraff ac ymatal rhag gwaredu mwy.

Fodd bynnag, yn ystod ymweliadau dilynol a gynhaliwyd rhwng Chwefror — Awst 2022, sylwodd swyddogion CNC ar droseddau pellach o'r un math. 

Gwelwyd 20 i 30 o sgipiau ychwanegol ar y safle ynghyd â phentyrrau o ddeunydd adeiladu a dymchwel a oedd yn y broses o gael ei falu a'i ddidoli.

Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

Gall troseddau gwastraff gael effaith negyddol ar yr amgylchedd, iechyd pobl a'u cymunedau lleol.
Byddwn yn erlyn y rhai sy'n ceisio elwa drwy dorri'r gyfraith ac y mae eu gweithredoedd yn tanseilio busnesau cyfreithlon sy'n gweithredu yn y diwydiant gwastraff.
Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn anfon neges glir y byddwn bob amser yn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur gan hefyd ddiogelu'r farchnad ar gyfer gweithredwyr cyfreithlon.

Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 21 Tachwedd, cafodd Digaway Limited ddirwy o £7000 a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £190.

Cafodd Mr Jenkins fel cyfarwyddwr y cwmni, ddedfryd o garchar am 12 wythnos ac fe’i gorchmynnwyd i dalu costau ymchwilio a chostau cyfreithiol CNC o £3125 a gordal dioddefwr o £128.

Dylai unrhyw un sy'n amau gweithgarwch gwastraff anghyfreithlon yn eich ardal roi gwybod drwy linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000.