Arddangos arfer gorau ym mhrosiect adfer afon Penfro

Bydd rhan o afon Penfro, ger Aberdaugleddau sydd wedi’i hadnewyddu’n ddiweddar, yn cael ei defnyddio fel safle arddangos ar gyfer prosiectau adfer afon yn y dyfodol yn dilyn cyfres o ymyriadau i wella iechyd yr afon a’r aber i lawr yr afon.

Roedd y gwaith a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cydweithrediad â'r tirfeddiannwr, yn cynnwys gosod deunydd pren mawr ar ran 200 metr o'r afon mewn ymgais i adfer prosesau afonol naturiol ac ychwanegu troadau naturiol i’r afon.

Mae hyn yn helpu i greu llifoedd gwahanol o fewn yr afon, ac yn annog troadau naturiol, a elwir yn ystumiau, i ffurfio dros amser. Mae'r rhain yn brin yn yr afon ar hyn o bryd gan ei bod, yn hanesyddol, wedi cael ei sythu at ddibenion dynol.

Mae'r pren hefyd yn dal silt a malurion, gan annog aildyfiant cynefin ar gyfer infertebratau a rhywogaethau eraill. Mae'n darparu lloches i bysgod mudol sy'n teithio i fyny'r afon i gyrraedd eu mannau silio.

Er mwyn lleihau erydiad pridd, a gwella ansawdd dŵr, mae 570 metr o ffensys wedi'u gosod i atal da byw rhag mynd i mewn i'r afon a chafodd ffynonellau dŵr yfed newydd, amgen eu cyflwyno.

Gyda chymorth a chyllid gan bartneriaeth Prosiect Adfer Afon Penfro, plannwyd 600 o goed hefyd i greu coridor coediog ar hyd yr afon. Unwaith y bydd y coed wedi aeddfedu, byddant yn darparu clustogfa rhwng tir amaethyddol cynhyrchiol a'r afon, gan leihau dŵr ffo llawn maetholion sy'n effeithio ar ansawdd dŵr.

Mae CNC nawr yn gobeithio defnyddio’r prosiect i arddangos arferion adfer afonydd gan ddefnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur.

Meddai Andrew Lewis, o dîm Prosiectau Morol CNC:
“Yn anffodus, nid oes llawer o’n hafonydd yn gweithredu’n naturiol erbyn hyn a hynny oherwydd ymyrraeth ddynol, newid hinsawdd a llygredd. Gall hyn gael effaith enfawr ar ansawdd dŵr, cynefinoedd a bywyd gwyllt mewn rhai o’n hafonydd a’n haberoedd sy’n cael eu gwarchod fwyaf.
“Yn ogystal ag effeithio ar yr amgylchedd, mae’r problemau sy’n codi dro ar ôl tro yn afon Penfro a Phyllau Melin Penfro yn cael effaith negyddol ar les cymunedol a thwristiaeth leol. 
“Mae’r atebion sy’n seiliedig ar natur sy’n cael eu rhoi ar waith yma yn syml ond yn effeithiol, a byddant yn cyfrannu at ymdrechion a mentrau ehangach i leihau llygredd maetholion yn ein dyfrffyrdd.
“Mae’r prosiect yn amlygu pwysigrwydd ymdrechion cadwraeth sy’n cael eu hysgogi gan bartneriaeth, a’n huchelgais yw arddangos yr hyn ydym wedi’i gyflawni yma fel y gellir ei ailadrodd yn llwyddiannus mewn mannau eraill.”

Mae Dyfrffordd Aberdaugleddau wedi cael ei dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig Forol, tra bod rhannau sylweddol o’i harfordir hefyd wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae afon Penfro a hefyd corff dŵr trosiannol mewnol Aberdaugleddau, yn methu â chyrraedd statws ansawdd dŵr 'da'. Mae lefelau uchel o erydiad pridd a maetholion yn achosi gwaddodiad a gordyfiant algâu ym mhyllau cyfagos Melin Penfro bob haf. Mae mwd hefyd yn cael ei ddyddodi mewn cynefinoedd gwarchodedig megis gwelyau maerl yn yr Aber, sy'n nodwedd warchodedig o'r ACA.

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr.