Byddwch yn barod am berygl llifogydd y gaeaf

Llifogydd yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl ledled Cymru i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer llifogydd y gaeaf hwn – hyd yn oed os nad ydynt wedi dioddef llifogydd o’r blaen.

Daw'r alwad ar ôl dechrau arbennig o wlyb i’r hydref gyda phedair storm a enwyd a chyfnodau parhaus o law trwm, sydd wedi arwain at lifogydd mewn rhai cymunedau ledled Cymru.

Wrth edrych ymlaen at y gaeaf, mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld cyfnod gwlypach na’r cyfartaledd yn ystod misoedd cynnar y gaeaf ac mae cymunedau’n cael eu rhybuddio i wirio’r risg o lifogydd yn eu hardaloedd, ac i wneud paratoadau nawr.

CNC yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer rheoli perygl llifogydd o brif afonydd a’r môr yng Nghymru, ac felly mae wedi bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill drwy gydol yr hydref gwlyb i helpu i sicrhau bod cymunedau’n barod ar gyfer digwyddiadau tywydd eithafol.

Mae 1 o bob 8 eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd – tua 245,000 eiddo – ac mae  disgwyl i’r newid yn yr hinsawdd achosi digwyddiadau tywydd mwy difrifol yn y dyfodol, a hynny’n amlach hefyd. Mae CNC felly’n annog pobl i gymryd tri cham syml i helpu i baratoi eu hunain ar gyfer llifogydd:

 

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Digwyddiadau a Pherygl Llifogydd CNC:

Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol yn newydd yng Nghymru, ac mae’r bobl sydd wedi profi llifogydd yn y gorffennol yn gwybod yn iawn pa mor ddinistriol y gall hynny fod.
Ond hyd yn oed os nad yw llifogydd wedi effeithio ar eich eiddo o’r blaen, nid yw’n golygu na all ddigwydd yn y dyfodol. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr ac yn dod â mwy o stormydd a glaw trwm yn ei sgil. Mae pobl sy'n anwybyddu'r risg honno yn rhoi eu hunain mewn perygl.
Yn anffodus, yn rhy aml o lawer ar ôl llifogydd rydym yn clywed pobl yn dweud nad oedden nhw erioed wedi meddwl y byddai’n digwydd iddyn nhw. Dyna pam ei bod yn hanfodol bod pobl yn gwneud y paratoadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl i baratoi ar gyfer y gwaethaf.

Fel y mae’r stormydd diweddar wedi dangos, gall yr hydref a’r gaeaf ddod â’r tywydd anoddaf yn eu sgil, gan ein hatgoffa o beryglon tywydd garw yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Will Lang, Pennaeth ‘Ymwybyddiaeth o’r Sefyllfa’ yn y Swyddfa Dywydd:

Mae amrywiaeth eang o dywydd yn yr hydref a’r gaeaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n debygol na fydd diwedd yr hydref a’r gaeaf eleni yn wahanol. Ar hyn o bryd, a thrwy gydol dechrau’r gaeaf, mae amodau gwlyb yn fwy tebygol na’r arfer.
Mae’r risg hon o dywydd gwlyb a gwyntog, sydd ychydig yn uwch na’r arfer, hefyd yn dilyn mis Hydref gwlyb - ac felly mae’n bosibl y gallai glaw trwm gael mwy o effaith na’r arfer dros y mis neu ddau nesaf.


Ers llifogydd mis Chwefror 2020, mae CNC wedi cynyddu nifer y gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n barod i ymateb i ddigwyddiadau – bellach ceir mwy na 700 yn gweithio mewn dros 90 o rolau ymatebol.

Ychwanegodd Jeremy:

Er y bydd CNC yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein hamddiffynfeydd a’n systemau rhybuddio yn barod i helpu i leihau effaith glaw trwm ar bobl ac eiddo, ni allwn atal yr holl lifogydd.
Rydym yn cymryd ein rôl o ran ymateb i ddigwyddiadau o ddifrif ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i wneud popeth posibl i gadw pobl, cymunedau a’r amgylchedd yn ddiogel. Ond nid gwasanaeth brys ydym ni - mae ein gweithwyr yn oedi eu rolau arferol er mwyn ymgymryd â’n hymateb i ddigwyddiadau. Fodd bynnag, gall ehangder daearyddol, a difrifoldeb a hyd achosion o lawio trwm effeithio ar ein hymateb.

“Mae camau ymarferol y gall pobl eu cymryd i wybod y risg o lifogydd a pharatoi ar eu cyfer llifogydd. Gall pobl wirio’r risg o lifogydd ar wefan CNC trwy ein gwiriwr cod post syml, cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim, a dod o hyd i wybodaeth bwysig am sut i baratoi cynllun llifogydd a gwybod beth i'w wneud mewn llifogydd.”

Bydd CNC yn cyhoeddi Rhybuddion Llifogydd os bydd afonydd ac arfordiroedd yn cyrraedd lefelau lle mae llifogydd yn bosibl neu’n debygol gyda thimau'n monitro ac yn ceisio rhagweld lefelau afonydd a’r môr o amgylch Cymru 24 awr y dydd.

Mae tair lefel o rybuddion llifogydd:

Rhybudd ‘Byddwch yn barod am Lifogydd’ – pan fo llifogydd yn bosibl ac yn debygol o effeithio ar deithio, tir hamdden (fel parciau) neu dir fferm. Byddwch yn barod i weithredu ar eich cynllun llifogydd, paratowch fag o eitemau hanfodol a monitro lefelau afonydd lleol a’r gwasanaeth rhybuddion llifogydd ar wefan CNC.

Rhybudd Llifogydd – Dylech ddisgwyl llifogydd yn effeithio ar gartrefi a busnesau. Gweithredwch drwy symud eich teulu, anifeiliaid anwes a phethau gwerthfawr i safle diogel, diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr, a gosodwch offer amddiffyn rhag llifogydd.

Rhybudd Llifogydd Difrifol – mae perygl llifogydd difrifol a pherygl i fywyd. Efallai y bydd angen gadael rhai cymunedau, a dylech ddilyn cyngor y gwasanaethau brys. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl dybryd.

Mae'r map perygl llifogydd pum diwrnod i Gymru ar wefan CNC yn cael ei ddiweddaru hefyd bob dydd am 10:30am – ac yn amlach na hynny pan fo risg ganolig neu risg uchel o lifogydd. Mae’n rhoi asesiad o’r risg o lifogydd ar lefel awdurdod lleol am y pum diwrnod nesaf ac yn rhoi amser gwerthfawr i CNC, ei bartneriaid, a’r cyhoedd roi paratoadau ar waith i leihau effaith llifogydd. 

Mae'r tudalennau rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

Mae gwybodaeth a diweddariadau ar gael hefyd trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.