Cynllun yn y Bala yn ennill gwobr peirianneg sifil

Mae prosiect diogelwch cronfa ddŵr yng Ngogledd Cymru wedi cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo.

Profodd Prosiect Gwella Diogelwch Cronfa Ddŵr Llyn Tegid Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Bala lwyddiant yng Ngwobrau Peirianneg Sifil ICE Wales Cymru 2023, gan ennill Gwobr Alun Griffiths am Ymgysylltiad Cymunedol.

Dangosodd y prosiect safonau rhagoriaeth wrth ymgysylltu â’r gymuned leol gyda phwyslais ar faterion cymdeithasol, economaidd ac ecolegol i sicrhau cynaliadwyedd a lles yn y dyfodol.

Cynhaliwyd gwaith yn Llyn Tegid i'w alluogi i wrthsefyll tywydd eithafol a darparu amddiffyniad i fwy nag 800 eiddo ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Fe'i cyflawnwyd gan William Hughes Peirianneg Sifil, Binnies, Arcadis, Ground Control a Dams and Reservoirs Ltd ac roedd yn cynnwys cryfhau argloddiau'r llyn gyda mwy na 13,000 tunnell o greigiau.

Roedd y gwaith, a gwblhawyd ym mis Mawrth eleni, yn cynnwys gwelliannau amgylcheddol a hamdden fel llwybrau troed gwell ac ardaloedd eistedd newydd yn ogystal â phum hectar o gynefinoedd naturiol wedi'u hadfer ac ardaloedd newydd o ddolydd blodau gwyllt.

Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr, ICE Wales Cymru:

“Rydym yn llongyfarch Cyfoeth Naturiol Cymru a phawb a fu’n rhan o’r prosiect buddugol hwn. Nid yn unig y mae’r cynllun hwn wedi diogelu a gwella’r amgylchedd ond mae hefyd wedi cynnwys y gymuned, gan sicrhau dyfodol disglair i drigolion a’r economi. Mae’n enghraifft wych o’r rôl y mae peirianneg sifil yn ei chwarae yn ein bywydau.”

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn llwyddiannus yng Ngwobrau Peirianneg Sifil ICE Wales Cymru gyda phrosiect Llyn Tegid.
“Gall effeithiau llifogydd fod yn ddinistriol a pharhaol. Wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddod â thywydd eithafol yn amlach yn ei sgil, bydd y gwaith i gryfhau argloddiau’r llyn yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd i dref y Bala.
“Dyma enghraifft o safon y gwaith sy’n digwydd i helpu i ddarparu llu o fanteision i gymunedau ledled Cymru.
“Fe wnaeth pobl leol chwarae rhan allweddol wrth lunio’r prosiect a chafodd eu mewnbwn, yn enwedig o ran y cyfleoedd amgylcheddol a hamdden, ei weithredu ochr yn ochr â’r gwaith.
"Hoffwn ddiolch i'n staff, ein partneriaid a'n cymunedau lleol am ein helpu i gyflawni'r prosiect hwn sy'n rhan o'n gwaith ehangach i sicrhau bod Cymru'n gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd."

Mae Gwobrau Peirianneg Sifil ICE Wales Cymru yn dathlu prosiectau o bob maint a chwmpas o bob cwr o Gymru ac fe’u cynhaliwyd ar 22 Medi yng Nghaerdydd.