Artistiaid yn helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mawndir

Mae barddoniaeth a pherfformiadau byw wedi helpu i ledaenu'r gair am fawndir a sut y gall helpu i fynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur.

Ar gyfer digwyddiad Cyrff Corsiog, rhannodd yr artistiaid Manon Awst, Teddy Hunter, Mari Rose Pritchard a Julie Upmeyer eu hymatebion creadigol i Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio ar Ynys Môn.

Anogwyd aelodau'r cyhoedd i gerdded ar hyd y llwybr pren i brofi gwrthrychau, synau, perfformiadau byw, a barddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg.

Trefnwyd y digwyddiad yn y warchodfa natur genedlaethol sy’n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn cydweithrediad â’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â'r Ganolfan BioGyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Mae Cyrff Corsiog yn rhan o brosiect hirdymor gan Manon Awst wrth iddi ddehongli rhinweddau mawndir i’n hannog i feddwl yn wahanol am y dirwedd ryfeddol hon.

Dim ond 4% o dirwedd Cymru sydd wedi’i gorchuddio gan fawndir, ond mae’n dal 30% o'n carbon sy’n bodoli yn y pridd.

Fodd bynnag, gyda 90% o fawndir wedi'i ddifrodi, ar hyn o bryd mae'n rhyddhau nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang.

Gan gyfuno arbenigedd mawndiroedd a bioamrywiaeth CNC, a chydweithio drwy bartneriaethau allanol cryf, mae prosiectau fel hwn yn cyfrannu at nod y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd i adfer ecosystemau gweithredol i helpu i ddiogelu ac atafaelu carbon.

Mae Manon wrthi’n astudio ar gyfer Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio fel Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio ym Mangor.

Meddai:

"Nod Cyrff Corsiog oedd cynnig sawl ffordd o ymgysylltu â'r safle a gweld y tu hwnt i'r amlwg, ac i lawer dyma oedd eu hymweliad cyntaf â Chors Bodeilio.
"Daeth y tywydd â drama i'r digwyddiad, gyda phyliau o heulwen ac enfysau yn ychwanegu at y synau a'r delweddau. Roedd wir yn teimlo fel pe baem yn cydweithio â'r safle ei hun."

Bydd gwaith Manon ar fawndiroedd yn parhau, gyda chysylltiadau pellach rhwng dulliau artistig a gwyddonol ac ymchwil parhaus i ddeunyddiau yn y Ganolfan BioGyfansoddion. 

Dywedodd Alan Whitfield, Swyddog Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru:

"Roedd naws gyfriniol yn perthyn i’r digwyddiad, gan ennyn diddordeb a rhoi lle i fyfyrio. Roedd cymysgedd gwych o bobl yn cymryd rhan yn yr hyn a oedd yn teimlo fel taith chwilfrydig ym myd natur, o blant yn chwarae â'r mwd i oedolion yn rhyfeddu at faint y gwaith awyr agored."

Dywedodd Dr Peter Jones, Prif Gynghorydd Arbenigol CNC ar Fawndiroedd, a gefnogodd y digwyddiad gyda mewnbwn gwyddonol:

"Roedd y dehongliad creadigol yn ardderchog. Mae gen i ymlyniad dwfn i fawndir a'r safle hwn. Dwi wedi treulio llawer o amser yma yn meddwl am wlyptiroedd, yn mesur lefelau dŵr, yn cofnodi tegeiriau’r clêr, ac mae dehongliad yr artistiaid yn rhoi persbectif gwahanol i'r profiad hwnnw.
"Rwy'n cymeradwyo unrhyw ddigwyddiad sy'n tynnu sylw at rinweddau cudd mawndir fel y storfa lle ceir y symiau mwyaf crynodedig o garbon ar y ddaear."

Gallwch wrando ar Manon yn trafod mwy am y prosiect yn Cyfoeth: Podlediad Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Strwythurau Gludog: Gyda Manon Awst a’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar gael ar Spotify, Deezer, Amazon Music a thrwy’r ddolen hon