Artist yn cydweithio â'r Ganolfan Biogyfansoddion i ddatblygu deunyddiau cynaliadwy sy'n adrodd eu stori eu hunain o'r tir

Mae artist o Ogledd Cymru yn gweithio’n agos gyda Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor i greu deunyddiau newydd sy’n deillio o fyd natur y gellir eu defnyddio i greu gweithiau celf, fel rhan o amlygu’r angen i ofalu am ein hamgylchedd naturiol.

Mae Manon Awst, a gafodd ei magu ar Ynys Môn ac sy’n arddangos ei gwaith yn rhyngwladol, wedi bod yn cynnal ymchwil safle-benodol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Corsydd Môn a Chorsydd Llŷn ar y cyd ag arbenigwyr o Raglen Gweithredu Mawndiroedd Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru, sef cynllun pum mlynedd o adfer mawndiroedd yng Nghymru.

Mae’r ardaloedd hyn yn gartref i’r nifer mwyaf o gynefinoedd ffen cyfoethog yng Nghymru a gorllewin Prydain, ac maent yn chwarae rhan bwysig mewn dal a storio carbon, rheoleiddio nwyon tŷ gwydr, cynnal bioamrywiaeth a rheoleiddio dŵr.

Mae corff diweddaraf Manon o waith, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o Natur Greadigol sy’n dwyn yr enw ‘Cerfluniau Corsiog’, yn archwilio cyfansoddiad unigryw y mawndiroedd, a bydd yn cael ei rannu fel rhan o’i harddangosfa ‘Breuddwyd Gorsiog’, sy’n agor Dydd Sadwrn, 15fed Gorffennaf yn Oriel Brondanw, Llanfrothen.

Fel rhan o’r broses ymchwil, mae Manon, sydd ar hyn o bryd yn astudio am PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gweithio fel Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio’r brifysgol, wedi bod yn gweithio gyda’r arbenigwr deunyddiau Dr Simon Curling o’r Ganolfan Biogyfansoddion i dod â deunyddiau amrywiol ynghyd i ddatblygu cyfansoddion newydd ar gyfer ei chorff presennol o waith a thu hwnt.

Meddai Manon:

"Mawn yw’r deunydd sy’n diffinio’r ffeniau, ac rydw i wedi bod yn ei archwilio o wahanol safbwyntiau ac ar wahanol adegau o’r flwyddyn trwy ymweliad â’r safle gydag ecolegwyr lleol, arbenigwyr mawn, partneriaid eraill a disgyblion ysgol.
"Mae gan fawn ei amserlen ei hun – mae’n ffurfio’n araf iawn: bob blwyddyn, mae 1mm o fawn newydd yn ffurfio mewn mawndir gweithredol ac iach. Mae’n fy atgoffa bod deunyddiau yn cymryd eu hamser eu hunain, a bod gennyf gyfrifoldeb fel artist pan fyddaf yn dewis pa ddeunyddiau i weithio gyda nhw."

Er bod prosiect Manon yn archwilio’r mawndiroedd unigryw a bywiog, roedd defnyddio’r mawn ei hun yn amhosib gan fod yn rhaid iddo aros yn y ddaear i gyflawni ei swyddogaeth werthfawr o ran storio carbon, bioamrywiaeth a rheoleiddio dŵr. Serch hynny, roedd ei wead o’i edrych o dan ficrosgop yn bwynt cychwynnol i’r artist.

“Mae Dr Curling wedi fy nghefnogi wrth i mi archwilio gwahanol ddulliau o ddod â glaswelltau gwastraff o Gors Erddreiniog, cregyn cregyn gleision powdr, calch, gwlân a ‘biochar’, sy’n cael ei gynhyrchu o’r glaswellt, at ei gilydd. Mae'n broses barhaus o brofi a methu, ac mae llawer o samplau wedi casglu yn fy stiwdio! Mae un o fy ffefrynnau wedi'i wneud o laswellt mwydion, cregyn gleision a gwaelod gwlân, wedi'i rwymo ynghyd ag alginad, sy'n deillio o wymon.
“Mae Dr Julie Webb o Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor hefyd wedi bod yn ddigon caredig i rannu ei gwybodaeth am rywogaethau o wymon fel Saccharina Latissima sydd, o gael yr amodau cywir, â’r potensial i gael eu cynaeafu a darparu’r canlyniadau rhwymol yr wyf yn edrych amdanynt, felly dwi’n edrych ymlaen at weld sut y bydd hynny’n datblygu.
“Mae wedi bod yn broses hynod ddifyr hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen at rannu’r canlyniadau gyda’r cyhoedd dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Dr Peter Jones, Prif Ymgynghorydd Arbenigol CNC ar Fawndiroedd:

"Er y gallai rhai pobl feddwl bod mewndiroedd yn llai trawiadol na thirweddau naturiol eraill yng Nghymru megis mynyddoedd, coetiroedd neu arfordiroedd - mewn gwirionedd mae ein corsydd a'n ffeniau yn cefnogi amrywiaeth wych o blanhigion ac anifeiliaid, ac mae'r pwysigrwydd hwn yn parhau o'r golwg o dan y ddaear.
"Mawndir yw storfa garbon pridd mwyaf dwys y ddaear ac mae eu hadfer i gyflwr iach yn gam allweddol gan Lywodraeth Cymru a CNC wrth weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n bleser gennym felly weithio gydag artist fel Manon Awst sydd, drwy ei chreadigrwydd a'i gwaith ymchwil, yn ceisio amlygu rhai o rinweddau cudd mawndiroedd ar gyfer llygaid y cyhoedd."

Dywedodd Dr Simon Curling:

“Fel ymchwilwyr, rydym wedi arfer edrych ar ddeunyddiau naturiol o safbwynt gwyddonol neu ddatblygu cynnyrch felly mae gweithio gyda Manon, gyda’i hagwedd greadigol, yn ddull newydd a chyffrous i ni ac mae’n ein helpu i edrych ar deunyddiau mewn ffyrdd newydd.”

Mae ‘Breuddwyd Gorsiog’ (Wetland Dreams) yn agor nos Sadwrn, 15fed o Orffennaf yn Oriel Brondanw, Llanfrothen a bydd sgwrs artist gyda Dr Sarah Pogoda o Brifysgol Bangor yn yr oriel ar ddydd Sadwrn, 19eg Awst.

Bydd Manon hefyd yn cyflwyno elfen o’r gwaith gyda CNC ar ddydd Llun 7fed o Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a bydd cerflun newydd yn cael ei ddadorchuddio yng Nghorsydd Môn yn ddiweddarach eleni. Gallwch ddysgu mwy am Manon Awst yma